Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales is urging local producers to take part in the Great Taste Awards 2023.
Entries for the annual contest are now open to non-members of the Guild of Fine Food until February 7, or earlier if the entry cap is reached.
Mr Rowlands, a keen supporter of buying local produce said:
Food and drink from my region is held in the highest regard all over the world for its superlative quality and excellent taste and these businesses make a vital contribution to the Welsh economy.
Great Taste stars are highly respected seals of approval and many businesses from North Wales continue to be awarded these accolades. Last year many different companies were awarded stars for their products which is a great way to promote their wares.
I support any initiatives and encourage local producers to make sure they don’t miss out and enter this prestigious competition.
Great Taste is the largest and most trusted food and drink accreditation scheme and supports and promotes producers, large and small. It gives buyers and food lovers in the UK and overseas reliable recommendations for great tasting food.
Putting your food or drink to the test with our panel of over 500 experts is a quick way to get honest, straightforward and impartial feedback from chefs, buyers, food writers and retailers. Whether your product receives a 1-, 2- or 3-star accolade, Great Taste stars are highly respected seals of approval. It is recognised as a reliable stamp of excellence among consumers, retailers and major food buyers alike and attracts entries from all over the world including China, Russia and USA.
Sam Rowlands AS yn galw ar gynhyrchwyr yn ei ranbarth i gystadlu mewn cystadleuaeth bwyd a diod genedlaethol fawreddog
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru yn annog cynhyrchwyr lleol i gymryd rhan yng Ngwobrau Great Taste 2023.
Mae ceisiadau ar gyfer yr ornest flynyddol bellach ar agor i bobl nad ydyn nhw’n aelodau o'r Guild of Fine Food tan 7 Chwefror, neu'n gynharach os cyrhaeddir y cap mynediad.
Meddai Mr Rowlands, sy’n gefnogwr brwd o brynu cynnyrch lleol:
Mae bwyd a diod o'm rhanbarth i yn uchel iawn ei barch ym mhob cwr o'r byd am ei ansawdd uchel a'i flas rhagorol ac mae'r busnesau hyn yn gwneud cyfraniad hanfodol at economi Cymru.
Mae sêr Great Taste yn gymeradwyaeth uchel iawn ei pharch ac mae llawer o fusnesau o’r Gogledd yn parhau i gael eu gwobrwyo gyda’r anrhydeddau hyn. Y llynedd, dyfarnwyd sêr i nifer o gwmnïau gwahanol am eu cynnyrch sy'n ffordd wych o hyrwyddo eu cynnyrch.
Rwy'n cefnogi unrhyw fentrau ac yn annog cynhyrchwyr lleol i wneud yn siŵr nad ydyn nhw'n colli cyfle ac yn ymuno â'r gystadleuaeth fawreddog hon.
Great Taste yw'r cynllun achredu bwyd a diod mwyaf dibynadwy ac mae'n cefnogi ac yn hyrwyddo cynhyrchwyr, bach a mawr. Mae'n rhoi argymhellion dibynadwy am fwyd blasus gwych i brynwyr a phobl sy'n hoff o fwyd yn y DU a thramor.
Mae rhoi eich bwyd neu ddiod ar brawf gerbron ein panel o dros 500 o arbenigwyr yn ffordd gyflym o gael adborth gonest, syml a diduedd gan gogyddion, prynwyr, awduron bwyd a manwerthwyr. P'un a yw eich cynnyrch yn derbyn gwobr 1-, 2- neu 3- seren, mae sêr Great Taste yn yn gymeradwyaeth gwerth chweil i’w chael.
Caiff ei chydnabod fel stamp rhagoriaeth dibynadwy ymhlith defnyddwyr, manwerthwyr a phrynwyr bwyd mawr, ac mae'n denu ceisiadau o bob cwr o'r byd gan gynnwys Tsieina, Rwsia ac UDA.