Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales is urging local producers to take part in the Great Taste Awards 2025.
Entries for the annual contest will open to non-members of the Guild of Fine Food on January 6 and close on January 21, or earlier if the entry cap is reached.
Mr Rowlands, a keen supporter of buying local produce said:
We all know that food and drink from North Wales is held in the highest regard all over the world for its great quality and excellent taste.
Our food and drink businesses make a vital contribution to the Welsh economy and I would encourage local producers to enter this prestigious competition.
Great Taste stars are highly respected seals of approval and many businesses from North Wales continue to be awarded these accolades with Anglesey Fine Foods Ltd being awarded three stars in 2024 for its Shoulder of Anglesey Fat-Tail Lamb.
Also securing awards from North Wales were Dolwen Welsh Lamb and Beef from Llanarmon DC near Llangollen, for its Welsh beef brisket and Ma Baker from Overton, Wrexham for their Buckwheat Crackers and Seeded Rye Sourdough.
Nearly 3,500 companies from 115 countries around the world entered Great Taste this year, between them offering 13,672 products for review. The UK entered 8,008 products from 2,528 companies.
Great Taste is the largest and most trusted food and drink accreditation scheme and supports and promotes producers, large and small. It gives buyers and food lovers in the UK and overseas reliable recommendations for great tasting food.
It is recognised as a reliable stamp of excellence among consumers, retailers and major food buyers alike and attracts entries from all over the world.
Mae Sam Rowlands AS yn galw ar gynhyrchwyr yn ei ranbarth i gystadlu mewn cystadleuaeth bwyd a diod o fri cenedlaethol
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog cynhyrchwyr lleol i gymryd rhan yng Ngwobrau Great Taste 2025.
Bydd ceisiadau ar gyfer yr ornest flynyddol yn agor i'r rhai sydd ddim yn aelodau o’r Guild of Fine Food ar 6 Ionawr ac yn cau ar 21 Ionawr, neu'n gynharach os cyrhaeddir y terfyn ar gyfer nifer y cystadleuwyr.
Meddai Mr Rowlands, sy'n frwd o blaid prynu cynnyrch lleol:
Rydyn ni i gyd yn gwybod bod gan fwyd a diod o’r Gogledd enw da ledled y byd am ei ansawdd gwych a'i flas rhagorol.
Mae ein busnesau bwyd a diod yn gwneud cyfraniad hanfodol at economi Cymru a byddwn yn annog cynhyrchwyr lleol i gymryd rhan yn y gystadleuaeth fawreddog hon.
Mae sêr Great Taste yn sêl bendith uchel ei barch ac mae llawer o fusnesau o’r Gogledd yn parhau i dderbyn yr anrhydeddau hyn, gydag Anglesey Fine Foods Ltd yn cael tair seren yn 2024 am ei ysgwydd o gig oen cynffon dew Ynys Môn.
Ymhlith yr enillwyr eraill o’r Gogledd roedd cwmni Dolwen o Lanarmon DC ger Llangollen sy’n gwerthu cig oen a chig eidion o Gymru, am ei frisged cig eidion, a Ma Baker o Overton, Wrecsam am eu craceri gwenith yr hydd a bara toes sur rhyg â hadau.
Gwnaeth bron i 3,500 o gwmnïau o 115 o wledydd ledled y byd gystadlu yn y Great Taste eleni, gan gynnig 13,672 o gynhyrchion i'w hadolygu rhyngddyn nhw. Roedd gan y DU 8,008 o gynhyrchion gan 2,528 o gwmnïau.
Great Taste yw'r cynllun achredu bwyd a diod mwyaf mewn maint a mwyaf dibynadwy ac mae'n cefnogi ac yn hyrwyddo cynhyrchwyr bach a mawr. Mae'n rhoi argymhellion dibynadwy i brynwyr a phobl sy'n hoff o fwyd yn y DU a thramor ar gyfer bwyd blasus dros ben.
Mae'n cael ei gydnabod fel stamp dibynadwy o ragoriaeth ymhlith defnyddwyr, manwerthwyr a phrynwyr bwyd mawr fel ei gilydd ac yn denu cystadleuwyr o bob cwr o'r byd.