Sam Rowlands MS for North Wales is demanding urgent action to repair a road which has been closed following Storm Christoph earlier this year.
Alongside local MP Simon Baynes, Sam recently visited the landslip on Newbridge Road between Newbridge and Cefn Mawr.
Mr Rowlands said:
It is now over 10 months since Storm Christoph caused excessive flooding in many parts of North Wales and residents living in the Newbridge area are quite rightly angry that the B5605, which is a vital link road, has still not been repaired.
The diversions mean some people are having to drive miles out of their way just to get to their homes. It is simply not good enough.
My fellow North Wales Conservative MS, Mark Isherwood and I have raised this matter with the Welsh Government and demanded action. I understand repair works will cost around £1 million but a grant application from Wrexham County Borough Council, to fund the work has been rejected.
It is unacceptable that a failure to such a critical piece of local infrastructure is being left to a council to address.
Mr Rowlands MS and Mr Baynes MP met with local resident, Tony Partridge and saw at first-hand the problem with the landslip.
Mr Partridge, who has been campaigning for work to be carried out to repair the road said he was disappointed and annoyed at the time it was taking to repair the road.
Mr Baynes said:
In the event of closures on the trunk road, whether for planned works or emergencies, alternative routes are diverted via Llangollen – a fifteen-mile diversion – and this is clearly not sustainable – particularly when emergency vehicles are taken into account.
We’re calling on Welsh Government Ministers to step up and take action on an issue that is seriously affecting residents in our part of Wales. I’m concerned that Ministers in Cardiff Bay are turning a blind eye to the damage to our communities in Clwyd South caused by flooding.
I’m willing to work with Welsh Government to ensure Wrexham Council receives the funding support they need to repair our damaged infrastructure.
Sam Rowlands AS yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddod o hyd i'r arian i atgyweirio ffordd gyswllt hanfodol rhwng Newbridge a Chefn Mawr
Mae Sam Rowlands AS Gogledd Cymru yn mynnu gweithredu ar frys i atgyweirio ffordd sydd wedi bod ar gau ers Storm Christoph yn gynharach eleni.
Ynghyd â'r Aelod Seneddol lleol Simon Baynes, ymwelodd Sam â'r tirlithriad ar y ffordd rhwng Newbridge a Chefn Mawr yn ddiweddar.
Dywedodd Mr Rowlands:
Mae dros 10 mis bellach ers i Storm Christoph achosi llifogydd eithriadol mewn sawl rhan o'r gogledd, ac mae trigolion sy'n byw yn ardal Newbridge yn flin, a hawdd deall hynny, bod y B5605, sy'n ffordd gyswllt hanfodol, yn dal heb gael ei hatgyweirio.
Mae'r gwyriadau'n golygu bod rhai pobl yn gorfod gyrru milltiroedd allan o'u ffordd er mwyn cyrraedd eu cartrefi. Yn syml iawn, dydy hyn ddim yn ddigon da.
Mae fy nghyd-Aelod Ceidwadol dros Ogledd Cymru, Mark Isherwood a minnau wedi codi'r mater hwn gyda Llywodraeth Cymru ac wedi mynnu bod yna weithredu. Rwy'n deall y bydd y gwaith atgyweirio yn costio tua £1 miliwn ond mae cais am grant gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, i ariannu'r gwaith, wedi'i wrthod.
Mae'n annerbyniol bod amharu ar elfen mor hanfodol o'r seilwaith lleol yn cael ei adael i gyngor ei ddatrys.
Cyfarfu Mr Rowlands AS a’r Aelod Seneddol, Mr Baynes â phreswylydd lleol, Tony Partridge, a gweld y broblem y tirlithriad gyda'u llygaid eu hunain.
Dywedodd Mr Partridge, sydd wedi bod yn ymgyrchu dros gwblhau gwaith i atgyweirio'r ffordd, ei fod yn siomedig ac yn flin ynghylch pa mor hir roedd hi'n gymryd i drwsio'r ffordd.
Dywedodd Mr Baynes:
Os bydd y gefnffordd yn cau, boed hynny ar gyfer gwaith wedi'i gynllunio neu oherwydd argyfwng, mae traffig yn cael ei ddargyfeirio ar ffordd amgen drwy Langollen – gwyriad o 15 milltir – ac mae'n amlwg nad yw hyn yn gynaliadwy, yn enwedig wrth ystyried cerbydau brys.
Rydyn ni'n galw ar Weinidogion Llywodraeth Cymru i gamu ymlaen a gweithredu ar fater sy'n effeithio'n ddifrifol ar drigolion yn ein rhan ni o Gymru. Rwy'n pryderu bod Gweinidogion ym Mae Caerdydd yn anwybyddu difrod gan lifogydd i'n cymunedau ni yma yn Ne Clwyd.
Rwy'n barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Cyngor Wrecsam yn cael y cymorth ariannol sydd ei angen arnynt i atgyweirio'r difrod i'n seilwaith.