Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on tourism businesses to enter this year’s prestigious Go North Wales Tourism Awards.
Mr Rowlands, Chair of the Cross-Party Group on Tourism in Welsh Parliament and a keen supporter of the industry in North Wales, said:
Everybody knows how passionate I am about encouraging and promoting tourism in my region of North Wales and I am delighted to see the prestigious Go North Wales Tourism Awards being held once again this year.
Tourism was one of the hardest hit industries during and post Covid with very little help coming from the Welsh Labour Government which continues to chip away at this sector.
I was lucky enough to attend the award ceremony held at Venue Cymru last year when it was really great to see so many businesses receiving the recognition they deserve after what has been an extremely tough few years.
Time and time again I have raised tourism issues in Welsh Parliament yet my calls always seem to fall on deaf ears. Tourism is big business in North Wales, in particular, yet the Welsh Labour Government continue to hamper its growth with its crippling 182 day holiday let regulations and the soon to be introduced tourism tax.
Against this adversity our tourism industry is still strong and these awards demonstrate how important this sector is to North Wales.
The Go North Wales Tourism Awards champions the very best of the regions tourism industry and this year the event will take place once again at Venue Cymru, Llandudno, on Thursday November 21.
After what has been a challenging few years for the industry, this is a great opportunity to celebrate and recognise excellence in the region’s hospitality and tourism sectors.
The awards showcases and celebrates the achievements, hard work and dedication of those working in the industry.
If you are involved in the region’s tourism industry then these awards are for you and for the first time in many years, award winners from some of the regional categories will also feed into the national Visit Wales Awards, to be held in Spring 2025.
Deadline for applications will be Monday October 7 2024. For more details on how to apply go to
https://gonorthwalestourismawards.website/award-categories/
Sam Rowlands AS yn galw ar fusnesau i helpu i ddathlu sectorau lletygarwch a thwristiaeth y rhanbarth
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn galw ar fusnesau twristiaeth i gystadlu yng Ngwobrau Twristiaeth Go North Wales eleni.
Meddai Mr Rowlands, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Dwristiaeth yn y Senedd ac un o gefnogwyr brwd y diwydiant yn y Gogledd:
Mae pawb yn gwybod pa mor angerddol ydw i am annog a hyrwyddo twristiaeth yn fy rhanbarth i yma yn y Gogledd ac rwy'n falch iawn o weld Gwobrau Twristiaeth Go North Wales yn cael eu cynnal unwaith eto eleni.
Twristiaeth oedd un o'r diwydiannau a gafodd ei daro galetaf yn ystod ac ar ôl Covid, gyda fawr ddim cymorth yn dod gan Lywodraeth Lafur Cymru sy'n parhau i roi pwysau ar y sector hwn.
Roeddwn i'n ddigon ffodus i fynychu'r seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yn Venue Cymru y llynedd a gwych oedd gweld cymaint o fusnesau'n derbyn cydnabyddiaeth haeddiannol ar ôl blynyddoedd anodd dros ben.
Dro ar ôl tro rydw i wedi codi materion twristiaeth yn y Senedd ond does neb fel petaen nhw eisiau gwrando. Mae twristiaeth yn fusnes mawr yn y Gogledd, yn benodol, ond eto mae Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i rwystro ei thwf gyda'i rheoliadau gosod llety gwyliau 182 diwrnod llym a'r dreth dwristiaeth a fydd yn cael ei chyflwyno cyn bo hir.
Yn wyneb yr heriau hyn, mae ein diwydiant twristiaeth yn dal yn gryf ac mae'r gwobrau hyn yn dangos pa mor bwysig yw'r sector hwn i’r Gogledd.
Mae Gwobrau Twristiaeth Go North Wales yn hyrwyddo'r gorau o ddiwydiant twristiaeth y rhanbarthau ac eleni bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal unwaith eto yn Venue Cymru, Llandudno, ddydd Iau 21 Tachwedd.
Ar ôl blynyddoedd anodd i'r diwydiant, dyma gyfle gwych i ddathlu a chydnabod rhagoriaeth yn sectorau lletygarwch a thwristiaeth y rhanbarth.
Mae'r gwobrau'n arddangos ac yn dathlu cyflawniadau, gwaith caled ac ymroddiad y rhai sy'n gweithio yn y diwydiant.
Os ydych chi'n ymwneud â diwydiant twristiaeth y rhanbarth, yna mae'r gwobrau hyn ar eich cyfer chi ac am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer, bydd enillwyr gwobrau o rai o'r categorïau rhanbarthol hefyd yn bwydo i Wobrau Cenedlaethol Croeso Cymru, sydd i'w cynnal yng Ngwanwyn 2025.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud ceisiadau fydd dydd Llun 7 Hydref 2024. Am ragor o wybodaeth am sut i wneud cais, ewch i https://gonorthwalestourismawards.website/award-categories/