Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is encouraging the public to take part in a consultation over proposals for a new Connah’s Quay low carbon power station.
Proposals are being developed by Uniper for a new low carbon combined-cycle gas turbine power station at its Connah’s Quay site and local residents and other organisations are being invited to attend public information events about the project.
Mr Rowlands said:
I was fortunate enough to visit Connah’s Quay Power Station earlier this year where I met Ant Landers the Plant Manager and I was very impressed with what I saw.
I heard about the future plans to provide a new low carbon gas fired power station on the Connah’s Quay site and I am delighted the public will now be able to have their say on this development.
I welcome this investment in North Wales which will make a positive contribution to our country’s energy security.
The proposed power station would connect into nearby CO₂ transport and storage infrastructure as part of the HyNet industrial cluster, enabling the captured CO₂ to be transported to permanent offshore storage facilities in repurposed depleted offshore gas fields.
The company held its initial Non-Statutory Consultation on its proposals in February and the feedback received during this early consultation has been reviewed and analysed to understand key themes and issues of importance.
It is currently undertaking an Environmental Impact Assessment (EIA), to identify any potential environmental impacts associated with the construction and operation of the power station and how we plan to manage or mitigate these.
Uniper is now inviting local residents, councils and other organisations to attend public information events during the Statutory Consultation, taking place from October 8 to November 19 2024.
These events will give local people the opportunity to understand more about our proposals and to meet the project team A DCO consent application is then due to be submitted later this year.
Helen Rogers, Connah’s Quay Low Carbon Power Project Manager for Uniper, said: “The Connah’s Quay Low Carbon Power project would enable us to continue to reliably and efficiently generate electricity when it is needed, contributing to future security of supply as well as contributing to economic growth in the region. I’d like to encourage people to come along to the public information events to find out more about our plans for the site.”
The consultation events are being held on:
Online webinar; Saturday, October 19, 11:00-12:00; Tuesday October 22, 13:00-14:00; Wednesday October 23 at Coleg Cambria, Deeside, 16:00-20:00; Saturday October 26 at Flint Town Hall, 11:00-16:00; Online webinar, Monday, November 4, 18:00-19:00 and Thursday, November 7, at Connah’s Quay Cricket Club, 13:00-18:00.
Sam Rowlands AS yn galw ar etholwyr i ddweud eu dweud ar orsaf ynni newydd yn Sir y Fflint
Mae Sam Rowlands, Aelod o Senedd Cymru dros y Gogledd, yn annog y cyhoedd i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ynghylch cynigion ar gyfer gorsaf ynni carbon isel newydd yng Nghei Connah.
Mae cynigion yn cael eu datblygu gan Uniper ar gyfer gorsaf ynni tyrbin nwy cylch cyfun carbon isel newydd ar ei safle yng Nghei Connah ac mae trigolion lleol a sefydliadau eraill yn cael eu gwahodd i ddigwyddiadau gwybodaeth cyhoeddus am y prosiect.
Dywedodd Mr Rowlands:
Roeddwn i'n ddigon ffodus i ymweld â Gorsaf Ynni Cei Connah yn gynharach eleni a chyfarfod ag Ant Landers, Rheolwr y Gwaith, a gwnaeth yr hyn a welais gryn argraff arna i.
Clywais am gynlluniau'r dyfodol i ddarparu gorsaf ynni nwy carbon isel newydd ar safle Cei Connah ac rwyf wrth fy modd y bydd y cyhoedd yn cael cyfle nawr i ddweud eu dweud am y datblygiad hwn.
Rwy'n croesawu'r buddsoddiad hwn yn y Gogledd a fydd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i ddiogelwch ynni ein gwlad.
Byddai'r orsaf ynni arfaethedig yn cysylltu â seilwaith trafnidiaeth a storio CO₂ cyfagos fel rhan o glwstwr diwydiannol HyNet, gan alluogi'r CO₂ a gaiff ei ddal i gael ei gludo i gyfleusterau storio alltraeth parhaol mewn meysydd nwy alltraeth sydd wedi'u disbyddu a’u defnyddio at ddiben newydd.
Cynhaliodd y cwmni ei Ymgynghoriad Anstatudol cychwynnol ar ei gynigion ym mis Chwefror ac mae'r adborth a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad cynnar hwn wedi'i adolygu a'i ddadansoddi i ddeall themâu allweddol a materion o bwys.
Ar hyn o bryd mae'n cynnal Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol, i nodi unrhyw effeithiau amgylcheddol posibl sy'n gysylltiedig ag adeiladu a gweithredu'r orsaf ynni a sut rydym yn bwriadu rheoli neu liniaru'r effeithiau hyn.
Nawr, mae Uniper yn gwahodd trigolion, cynghorau a sefydliadau lleol eraill i ddigwyddiadau gwybodaeth gyhoeddus yn ystod yr Ymgynghoriad Statudol, sy’n cael ei gynnal rhwng 8 Hydref ac 19 Tachwedd 2024.
Bydd y digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle i bobl leol ddeall mwy am ein cynigion ac i gyfarfod tîm y prosiect. Yna bydd cais caniatâd Gorchymyn Cydsyniad Datblygu yn cael ei gyflwyno yn ddiweddarach eleni.
Dywedodd Helen Rogers, Rheolwr Prosiect Ynni Carbon Isel Cei Connah ar gyfer Uniper: “Byddai prosiect Ynni Carbon Carbon Isel Cei Connah yn ein galluogi i barhau i gynhyrchu trydan yn ddibynadwy ac yn effeithlon pan fo angen, gan gyfrannu at ddiogelwch y cyflenwad yn y dyfodol yn ogystal â chyfrannu at dwf economaidd yn y rhanbarth. Hoffwn annog pobl i ddod draw i'r digwyddiadau gwybodaeth cyhoeddus i gael gwybod mwy am ein cynlluniau ar gyfer y safle.”
Mae'r digwyddiadau ymgynghori’n cael eu cynnal ar y dyddiau canlynol:
Gweminar ar-lein; dydd Sadwrn, 19 Hydref, 11:00-12:00; dydd Mawrth 22 Hydref, 13:00-14:00; dydd Mercher 23 Hydref yng Ngholeg Cambria, Glannau Dyfrdwy, 16:00-20:00; dydd Sadwrn 26 Hydref yn Neuadd y Dref y Fflint, 11:00-16:00; Gweminar ar-lein, dydd Llun, 4 Tachwedd, 18:00-19:00 a dydd Iau, 7 Tachwedd, yng Nghlwb Criced Cei Connah, 13:00-18:00.