Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is encouraging people to take part in a consultation on North Wales Fire and Rescue’s plan to continue to prevent and respond to fires and other emergencies in North Wales.
North Wales Fire and Rescue Authority is encouraging people to take part in a consultation on its Community Risk Management Implementation Plan for 2025-26 which runs until December 16.
Mr Rowlands said:
I am a great supporter of involving people, who live and work in North Wales, in decisions which affect their communities and firmly believe they should have the opportunity to have their say on what they want to see from public services like North Wales Fire and Rescue.
It is vital that if you are interested in giving feedback that you take part in the consultation as your involvement will help shape the future of the service in North Wales.
If you want to take part you only have a couple of weeks to respond as the consultation closes at midnight on December 16 2024.
This is the second annual plan containing objectives that will continue to deliver against the 2024-29 Community Risk Management Plan, CRMP.
Chief Fire Officer Dawn Docx said:
One of the key objectives for fire and rescue services in Wales is to continually and sustainably reduce risk and enhance the safety of citizens and communities.
A Community Risk Management Plan aims to identify risks facing the community and describes how the Fire and Rescue Authority will manage those risks, and continue to prevent and respond to fires and other emergencies.
In July 2024 we published our five-year CRMP following public consultation and our 2024-25 Implementation Plan, which contained improvement and well-being objectives to enable us to deliver against our long-term objectives.
We now want our communities to take part in a consultation on the Community Risk Management Implementation Plan for 2025-26.
This consultation is important to everyone in North Wales and so listening to your views is important to us.
We want to know if you think we have identified the most appropriate risks and whether our plans and objectives will meet the aims of our five principles.
To take part, please visit www.northwalesfire.gov.wales to complete the questionnaire and to access all the information needed in order to respond to the questions. Direct link here.
You can call or text North Wales Fire and Rescue Service on 07717 516 187, or email [email protected] if you would prefer an easy read format or a paper copy of the questionnaire, which you can return to us free of charge.
The final decision will be made by the Fire Authority – details of the decision-making meeting will be available on www.northwalesfire.gov.wales, together with a recording of proceedings.
Sam Rowlands AS yn galw ar etholwyr i ddweud eu dweud ar gynlluniau ar gyfer gwasanaeth tân ac achub y Gogledd
Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, yn annog pobl i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar gynllun Tân ac Achub Gogledd Cymru i barhau i atal ac ymateb i danau ac argyfyngau eraill yn y Gogledd.
Mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog pobl i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar ei Gynllun Gweithredu Rheoli Risg Cymunedol ar gyfer 2025-26, sy'n para tan 16 Rhagfyr.
Dywedodd Mr Rowlands:
Rwy'n gefnogwr brwd o gynnwys pobl, sy'n byw ac yn gweithio yma yn y Gogledd, mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar eu cymunedau ac sy'n credu'n gryf y dylent gael y cyfle i ddweud eu dweud ar yr hyn maen nhw am ei weld gan wasanaethau cyhoeddus fel Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Mae'n hanfodol, os oes gennych ddiddordeb mewn rhoi adborth, eich bod yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad gan y bydd eich cyfranogiad yn helpu i lunio dyfodol y gwasanaeth yng Ngogledd Cymru.
Os ydych chi am gymryd rhan, dim ond cwpl o wythnosau sydd gennych i ymateb gan fod yr ymgynghoriad yn cau ar 16 Rhagfyr 2024 am hanner nos.
Dyma'r ail gynllun blynyddol sy'n cynnwys amcanion a fydd yn parhau i gyflawni yn erbyn Cynllun Rheoli Risg Cymunedol 2024-29, CRMP.
Dywedodd y Prif Swyddog Tân Dawn Docx:
Un o brif amcanion y gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru yw lleihau risg yn barhaus ac yn gynaliadwy a gwella diogelwch dinasyddion a chymunedau.
Nod Cynllun Rheoli Risg Cymunedol yw nodi'r risgiau sy'n wynebu'r gymuned a sut bydd yr Awdurdod Tân ac Achub yn rheoli'r risgiau hynny, ac yn parhau i atal ac ymateb i danau ac argyfyngau eraill.
Ym mis Gorffennaf 2024 cyhoeddwyd ein CRMP pum mlynedd yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a'n Cynllun Gweithredu ar gyfer 2024-25, a oedd yn cynnwys amcanion gwella a llesiant i'n galluogi i gyflawni yn erbyn ein hamcanion hirdymor.
Rŵan, hoffem i'n cymunedau gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar y Cynllun Gweithredu Rheoli Risg Cymunedol ar gyfer 2025-26.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn bwysig i bawb yng Ngogledd Cymru, felly mae’n bwysig ein bod ni’n gwrando ar eich barn chi.
Rydyn ni eisiau gwybod a ydych chi'n credu ein bod wedi nodi'r risgiau mwyaf priodol ac a fydd ein cynlluniau a'n hamcanion yn cyflawni nodau ein pum egwyddor.
I gymryd rhan, ewch i www.tangogleddcymru.llyw.cymru i lenwi'r holiadur a gweld yr holl wybodaeth sydd ei hangen er mwyn ateb y cwestiynau. Dolen uniongyrchol yma.
Gallwch ffonio neu decstio Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar 07717 516 187, neu e-bostio [email protected] os byddai'n well gennych gael fformat hawdd ei ddeall neu gopi papur o'r holiadur, y gallwch ei ddychwelyd atom yn rhad ac am ddim.
Yr Awdurdod Tân fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol - bydd manylion y cyfarfod penderfynu yn ymddangos ar wefan www.tangogleddcymru.llyw.cymru, ynghyd â recordiad o'r trafodion.