Sam Rowlands MS for North Wales is urging people to turn up and support ‘The Welsh Cavalry’ in Wrexham.
Mr Rowlands, Welsh Conservative Shadow Minister for Local Government said:
I am a great supporter of our armed forces and delighted to hear the Queen’s Dragoon Guards, ‘The Welsh Cavalry’ will be back in the town on Tuesday July 12.
Only two weeks ago hundreds of people lined the streets in Wrexham for Armed Forces Day and welcomed members of the military who marched through the town.
Wrexham has a long and proud association with the armed forces and I would urge everyone to join in the celebrations and attend the homecoming parade. It is a wonderful opportunity to show support and appreciation for our service people.
The event will begin with an inspection by the Mayor, Cllr Brian Cameron and the Lord Lieutenant, Mr Henry Fetherstonehaugh. This will be followed by a march through the centre of Wrexham at 11.25am.
Major RC Mansel QDG said:
1st The Queen’s Dragoon Guards, ‘the Welsh Cavalry’ are delighted to have the great honour and opportunity to conduct a homecoming parade in the city of Wrexham.
The Regiment are returning from 12 months NATO operations in Mali, Africa and very much look forward to being back in North Wales, one of our main recruiting areas.
Sam Rowlands AS yn galw ar etholwyr i gefnogi gorymdaith gan Warchodlu Dragŵn y Frenhines yr wythnos nesaf
Mae Sam Rowlands, Aelod Rhanbarthol o’r Senedd dros y Gogledd, yn annog pobl i ddod i gefnogi'r 'Marchoglu Cymreig' yn Wrecsam.
Dywedodd Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol i’r Ceidwadwyr Cymreig:
Rwy'n gefnogwr mawr o'n lluoedd arfog ac roeddwn i'n falch iawn o glywed y bydd Gwarchodlu Dragŵn y Frenhines, 'y Marchoglu Cymreig', yn dychwelyd i'r dref ddydd Mawrth 12 Gorffennaf.
Dim ond pythefnos sydd ers i gannoedd o bobl leinio'r strydoedd yn Wrecsam ar gyfer Diwrnod y Lluoedd Arfog a chroesawu aelodau o'r lluoedd arfog oedd yn gorymdeithio drwy'r dref.
Mae gan Wrecsam gysylltiad hir a balch â'r lluoedd arfog a byddwn yn annog pawb i ymuno yn y dathliadau a mynychu'r orymdaith. Mae'n gyfle gwych i ddangos cefnogaeth a gwerthfawrogiad i'n milwyr.
Bydd y digwyddiad yn dechrau gydag arolygiad gan y Maer, y Cynghorydd Brian Cameron, a'r Arglwydd Raglaw, Mr Henry Fetherstonehaugh. Yna, cynhelir gorymdaith drwy ganol Wrecsam am 11.25am.
Dywedodd Uwchgapten Cydran y Lluoedd wrth gefn Mansel, Gwarchodlu Dragŵn y Frenhines:
Mae Gwarchodlu Dragŵn 1af y Frenhines, 'y Marchoglu Cymreig', yn falch iawn o gael yr anrhydedd a'r cyfle i gynnal gorymdaith yn ninas Wrecsam.
Mae'r Gatrawd yn dychwelyd ar ôl 12 mis o weithrediadau NATO ym Mali, Affrica, ac yn edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i'r Gogledd, sef un o'n prif ardaloedd recriwtio.