Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging his constituents to make sure they take up the offer of the vaccination.
Mr Rowlands, Shadow Health Minister, was commenting after Betsi Cadwaladr University Health Board said they were planning to send out invitations for appointments for the vaccinations this week.
He said:
I am pleased to hear that BCUHB will once again be offering these very important boosters as it remains vital that we continue to protect the public, ourselves and those who need protection.
With Winter fast approaching I would urge people who are offered the jab to make the most of this extra protection.
The booster will certainly help those who have a higher risk of contracting Covid which will ultimately reduce hospital admissions and ease pressure on our already stretched health services in North Wales.
I would also encourage people to get their flu jab which again is added protection against catching any respiratory infections.
BCUHB are expecting to send out invitations for appointments to receive the COVID-19 booster vaccines, to the first eligible patients, this week
Most booster vaccinations will take place at a health board vaccination centre, but some patients may be invited to an appointment at their GP surgery or a nearby community pharmacy commissioned to deliver the vaccine.
As in prior campaigns, older and more vulnerable people will be invited first – with other groups following in order of clinical priority. Appointment letters will be sent to: Eeveryone aged 65 or over (including anyone who turns 65 on or before March 31, 2025); Everyone aged between six months and 64 with a health condition that puts them at higher risk from COVID-19, and pregnant women.
During early October, the health board’s vaccination teams will prioritise offering booster vaccines to residents in care homes for older adults. Appointments at vaccination centres for other groups will begin in mid-October.
People who are invited to receive the booster at their GP surgery may have an appointment earlier in October. Further rounds of invitations will be issued over the coming weeks and appointments will continue throughout November and December.
Invitation letters will include the date, time and location of the appointment, as well as information about how to change an appointment if necessary.
Where possible, COVID-19 booster and flu vaccines may be offered at the same time.
Full details of eligibility for the COVID-19 booster and more information about the vaccine is available here.
Sam Rowlands AS yn galw ar bobl gymwys i gael eu pigiadau atgyfnerthu’r Hydref ar gyfer Covid
Mae Sam Rowlands, Aelod Rhanbarthol o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog ei etholwyr i sicrhau eu bod yn manteisio ar y brechiad sy’n cael ei gynnig.
Gwnaeth Mr Rowlands, Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, y sylw ar ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddweud eu bod yn bwriadu anfon gwahoddiadau ar gyfer apwyntiadau ar gyfer y brechiadau'r wythnos hon.
Meddai:
Rwy'n falch o glywed y bydd BIPBC unwaith eto yn cynnig y pigiadau atgyfnerthu pwysig iawn hyn gan ei bod yn hanfodol ein bod yn parhau i ddiogelu'r cyhoedd, ein hunain a'r rhai sydd angen eu hamddiffyn.
Gyda'r Gaeaf yn agosáu byddwn yn annog pobl sy'n cael cynnig y pigiad i wneud y mwyaf o'r amddiffyniad ychwanegol hwn.
Bydd y pigiad atgyfnerthu yn sicr yn helpu'r rhai sydd â risg uwch o ddal Covid ac yn y pen draw bydd yn lleihau derbyniadau i'r ysbyty ac yn lleihau'r pwysau ar ein gwasanaethau iechyd sydd eisoes dan bwysau yn y Gogledd.
Byddwn hefyd yn annog pobl i gael eu pigiad ffliw sydd eto'n amddiffyniad ychwanegol rhag dal unrhyw heintiau anadlol.
Mae BIPBC yn disgwyl anfon gwahoddiadau yr wythnos hon i’r cleifion cymwys cyntaf ar gyfer apwyntiadau i dderbyn brechlynnau atgyfnerthu COVID-19.
Bydd y rhan fwyaf o bigiadau atgyfnerthu yn digwydd mewn canolfannau brechu bwrdd iechyd, ond efallai y bydd rhai cleifion yn cael eu gwahodd i apwyntiad yn eu meddygfa neu fferyllfa gymunedol gyfagos a gomisiynir i ddarparu'r brechlyn.
Fel mewn ymgyrchoedd blaenorol, bydd pobl hŷn a mwy bregus yn cael eu gwahodd yn gyntaf - gyda grwpiau eraill yn dilyn yn nhrefn blaenoriaeth glinigol. Anfonir llythyrau apwyntiad at: Pawb sy'n 65 oed neu'n hŷn (gan gynnwys unrhyw un sy'n troi'n 65 oed ar neu cyn 31 Mawrth 2025); Pawb rhwng 6 mis a 64 oed sydd â chyflwr iechyd sy'n eu rhoi mewn mwy o berygl o COVID-19, a menywod beichiog.
Yn ystod dechrau mis Hydref, bydd timau brechu'r bwrdd iechyd yn blaenoriaethu cynnig brechlynnau atgyfnerthu i breswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn. Bydd apwyntiadau mewn canolfannau brechu ar gyfer grwpiau eraill yn dechrau ganol mis Hydref.
Efallai y bydd pobl sy'n cael eu gwahodd i dderbyn y pigiad atgyfnerthu yn eu meddygfa yn cael apwyntiad yn gynharach ym mis Hydref. Bydd rhagor o wahoddiadau'n cael eu hanfon dros yr wythnosau nesaf a bydd apwyntiadau'n parhau drwy gydol mis Tachwedd a Rhagfyr.
Bydd llythyrau gwahoddiad yn cynnwys dyddiad, amser a lleoliad yr apwyntiad, yn ogystal â gwybodaeth am sut i newid apwyntiad os oes angen.
Pan fo modd, gellir cynnig brechlynnau atgyfnerthu COVID-19 a ffliw ar yr un pryd.
Mae manylion llawn cymhwystra ar gyfer brechlyn atgyfnerthu COVID-19 a rhagor o wybodaeth am y brechlyn ar gael yma.