Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging his constituents to make sure they take up the offer of a Respiratory Syncytial Virus jab.
Mr Rowlands, Shadow Health Minister, was commenting after Betsi Cadwallader University Health Board said vaccinations would start this month.
He said:
As we move into Autumn and head towards the Winter it is vital that we all continue to look after ourselves.
This virus affects the chest and lungs and can cause serious illness for older people and young children and I would urge over 75s and pregnant women, who will be offered the RSV vaccine, to take this extra protection.
I welcome this additional jab being offered to my constituents in North Wales and hope that plenty of people will take up this opportunity to keep themselves safe.
From September 2024, older people following their 75th birthday and all women who are 28 or more weeks pregnant will be offered an RSV vaccine.
This one-off vaccine will help to protect the elderly and newborn babies from the risk of serious illness caused by RSV.
The vaccine has been fully tested and trialled, and is safe and effective and is already in use in countries around the world, and has been shown to significantly reduce the number of hospital admissions related to RSV among older people and young children.
If you are over 75 you may be invited to receive the vaccine at your GP surgery or one of the health board's vaccination centres. Please look out for your invitation, or bookable clinics advertised by your surgery. People who live in a care home or who are housebound will be offered the vaccine in their home.
People aged 75 to 80, born on or after September 1,1944, will be invited to receive the RSV vaccine in the coming months. This catch-up vaccination programme will run over the next 12 months, with all eligible people offered the vaccine by August 31 2025.
The health board will write to you if you are over 28 weeks pregnant to offer you an appointment to receive the vaccine at one of our vaccination clinics, or may contact you by phone to arrange an appointment with you.
If you give birth during September without having had the vaccine during pregnancy, you may still offer you the RSV vaccine following birth. This will help to give some protection to your new baby by reducing the chances of the virus being passed on to them.
Sam Rowlands AS yn galw ar bawb sy'n gymwys i gael eu brechlyn feirws syncytiol anadlol
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog ei etholwyr i sicrhau eu bod yn manteisio ar y cynnig o gael pigiad feirws syncytiol anadlol.
Roedd Mr Rowlands, Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid, yn gwneud sylw ar ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddweud y byddai brechiadau'n dechrau fis yma.
Meddai:
Wrth i’r Hydref agosáu a’r Gaeaf ar y gorwel, mae'n hanfodol ein bod ni i gyd yn parhau i ofalu am ein hunain.
Mae'r feirws hwn yn effeithio ar y frest a'r ysgyfaint a gall achosi salwch difrifol i bobl hŷn a phlant ifanc a byddwn yn annog pobl dros 75 oed a menywod beichiog, a fydd yn cael cynnig y brechlyn feirws syncytiol anadlol, i dderbyn yr amddiffyniad ychwanegol hwn.
Rwy'n croesawu'r brechiad ychwanegol hwn sy'n cael ei gynnig i fy etholwyr yn y Gogledd ac rwy'n gobeithio y bydd digon o bobl yn manteisio ar y cyfle hwn i gadw eu hunain yn ddiogel.
O fis Medi 2024, bydd pawb dros 75 oed a phob menyw sy'n 28 wythnos neu fwy yn feichiog yn cael cynnig brechlyn feirws syncytiol anadlol.
Bydd y brechlyn untro hwn yn helpu i amddiffyn yr henoed a babanod newydd-anedig rhag y risg o salwch difrifol a achosir gan feirws syncytiol anadlol.
Mae'r brechlyn wedi cael ei brofi a'i dreialu'n llawn, ac mae'n ddiogel ac yn effeithiol ac mae eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn gwledydd bedwar ban byd, a dangoswyd ei fod yn lleihau nifer y derbyniadau i'r ysbyty sy'n gysylltiedig ag feirws syncytiol anadlol ymhlith pobl hŷn a phlant ifanc yn sylweddol.
Os ydych chi dros 75 oed, efallai y cewch wahoddiad i gael y brechlyn yn eich meddygfa neu un o ganolfannau brechu'r bwrdd iechyd. Cadwch lygad am eich gwahoddiad, neu glinigau y gellir eu harchebu a hysbysebir gan eich meddygfa. Bydd pobl sy'n byw mewn cartref gofal neu sy'n gaeth i'r tŷ yn cael cynnig y brechlyn yn eu cartref.
Bydd pobl rhwng 75 ac 80 oed, a anwyd ar neu ar ôl 1 Medi 1944, yn cael gwahoddiad i dderbyn y brechlyn feirws syncytiol anadlol yn ystod y misoedd nesaf. Bydd y rhaglen frechu dal i fyny hon yn rhedeg dros y 12 mis nesaf, gyda'r holl bobl gymwys yn cael cynnig y brechlyn erbyn 31 Awst 2025.
Bydd y bwrdd iechyd yn ysgrifennu atoch os ydych chi dros 28 wythnos yn feichiog i gynnig apwyntiad i chi dderbyn y brechlyn yn un o'n clinigau brechu, neu’n eich ffonio i drefnu apwyntiad.
Os byddwch chi'n rhoi genedigaeth yn ystod mis Medi heb gael y brechlyn yn ystod beichiogrwydd, efallai y byddwch chi'n dal i gael cynnig y brechlyn feirws syncytiol anadlol ar ôl rhoi genedigaeth. Bydd hyn yn helpu i roi rhywfaint o amddiffyniad i'ch babi newydd drwy leihau'r siawns y bydd y feirws yn cael ei drosglwyddo iddo.