Sam Rowlands MS for North Wales is urging his constituents to make sure they take up the offer of a Covid booster jab.
Mr Rowlands, Member if the Welsh Parliament, was commenting after Betsi Cadwallader University Health Board said vaccinations would start at the beginning of April.
He said:
“I am delighted to hear that BCUHB will be offering these very important boosters next month. It is vital that we continue to protect people, ourselves and those who need protection.
“The booster will help those who have a higher risk of contracting Covid and will ultimately cut down on hospital admissions therefore easing pressure on our already stretched health services in North Wales.
“Covid has still not gone away and I would urge people who are offered the jab, to seek this extra protection.“
BCUHB will be offering COVID-19 Spring booster vaccinations to eligible people across North Wales from April 2.
Following advice from the Joint Committee on Vaccination and Immunisation (JCVI) and the Welsh Government, a Spring booster vaccine will be offered to those most at risk from COVID-19. This includes everyone aged 75 or over; everyone living in a care home for older adults, and all adults and children aged six months and over who are immunosuppressed.
Around 100,000 people across North Wales are eligible to receive the Spring booster, which will top up their protection against the serious illness caused by the virus. The booster will be offered around six months after their last dose of the vaccine.
During April, our vaccination teams will visit care homes for older adults. We will also contact people who are housebound to arrange vaccination.
As in previous COVID-19 vaccination campaigns, all other people eligible for a Spring booster will be invited to an appointment at a nearby community vaccination centre by letter. Appointment letters will be posted over the coming weeks.
We expect the first appointments to be held at our community vaccination centres will take place from mid-April onwards, and to run throughout May and June. Further details are available on our website.
Sam Rowlands AS yn galw ar bawb sy'n gymwys i gael pigiad atgyfnerthu'r gwanwyn ar gyfer Covid
Mae Sam Rowlands, Aelod Rhanbarthol o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog ei etholwyr i sicrhau eu bod yn manteisio ar y cynnig i gael pigiad atgyfnerthu Covid.
Roedd Mr Rowlands, Aelod o Senedd Cymru, yn gwneud y sylw ar ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddweud y byddai brechiadau'n cychwyn ddechrau Ebrill.
Dywedodd:
Rwy'n falch iawn o glywed y bydd BIPBC yn cynnig y pigiadau atgyfnerthu pwysig iawn hyn fis nesaf. Mae'n hanfodol ein bod yn parhau i ddiogelu pobl, ni ein hunain a'r rhai sydd angen eu hamddiffyn.
Bydd y pigiad atgyfnerthu yn helpu'r rhai sydd â risg uwch o ddal Covid ac yn y pen draw bydd yn lleihau derbyniadau i'r ysbyty gan leihau'r pwysau ar ein gwasanaethau iechyd sydd eisoes o dan straen yn y Gogledd.
Nid yw Covid wedi diflannu o hyd a byddwn yn annog pobl sy'n cael cynnig y pigiad i dderbyn yr amddiffyniad ychwanegol hwn.
Bydd BIPBC yn cynnig brechiadau atgyfnerthu COVID-19 y gwanwyn i bobl gymwys ledled y Gogledd o 2 Ebrill ymlaen.
Yn dilyn cyngor gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a Llywodraeth Cymru, bydd brechlyn atgyfnerthu’r gwanwyn yn cael ei gynnig i'r rhai sy’n wynebu’r risg fwyaf o COVID-19. Mae hyn yn cynnwys pawb sy'n 75 oed neu'n hŷn; pawb sy'n byw mewn cartref gofal i oedolion hŷn, a phob oedolyn a phlentyn chwe mis oed a hŷn sydd â system imiwnedd wannach (imiwnoataliedig).
Mae tua 100,000 o bobl ar draws y Gogledd yn gymwys i dderbyn pigiad atgyfnerthu'r gwanwyn, a fydd yn ychwanegu at eu hamddiffyniad rhag salwch difrifol a achosir gan y feirws. Bydd y pigiad atgyfnerthu yn cael ei gynnig tua chwe mis ar ôl eu dos olaf o'r brechlyn.
Yn ystod mis Ebrill, bydd ein timau brechu yn ymweld â chartrefi gofal i oedolion hŷn. Byddwn hefyd yn cysylltu â phobl sy'n gaeth i'r tŷ i drefnu brechiad.
Fel mewn ymgyrchoedd brechu COVID-19 blaenorol, bydd yr holl bobl eraill sy'n gymwys ar gyfer pigiad atgyfnerthu'r gwanwyn yn cael eu gwahodd i apwyntiad mewn canolfan frechu gymunedol gyfagos trwy lythyr. Byddwn yn postio’r llythyrau apwyntiad dros yr wythnosau nesaf.
Disgwyliwn i’r apwyntiadau cyntaf gael eu cynnal yn ein canolfannau brechu cymunedol o ganol mis Ebrill ymlaen, a byddant yn cael eu cynnal drwy gydol mis Mai a Mehefin. Mae rhagor o fanylion ar gael ar ein gwefan.