Sam Rowlands MS for North Wales is urging community groups not to miss out on funding.
Mr Rowlands, Welsh Conservative Shadow Minister for Local Government, is supporting Wrexham County Borough Council’s call for people to apply for a Community Inclusion Grant.
He said:
I am delighted to support such a worthwhile initiative which allows people to receive financial aid to help set up a community based activity or project such as breakfast, lunch or supper clubs.
It is an excellent scheme as the money can also be used to improve facilities for existing groups as long as it supports the health and wellbeing of older people living in the community.
I am pleased to see that the eligibility criteria has now been extended and applications can be made for schemes which support adults with learning and or physical disabilities and mental health problems.
I understand grants have helped nearly 100 groups in the county borough since 2012 and I would urge anyone wanting to set up or expand a community group to make sure they apply.
The CIG was set up in 2012 to fund projects which improve the lives of older people living in Wrexham.
The grant aims to support the start-up of community based activities or expand groups and previous recipients of the grant includes Springfield Gardeners Club and Overton-on-Dee Community Gardeners.
Grants can be used for sessions run by volunteers where people can meet together on a regular basis for activities. Proposals are invited from individuals and organisations for activities such as learning new skills, sharing hobbies and social enterprise/co-operative.
For more information e-mail [email protected].
Sam Rowlands AS yn galw ar grwpiau i wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau gofal cymdeithasol i oedolion yn Wrecsam
Mae Sam Rowlands, AS dros Ogledd Cymru, yn annog grwpiau cymunedol i beidio â cholli’r cyfle i gael cyllid.
Mae Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid y Ceidwadwyr Cymreig, yn adleisio Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar ôl iddynt annog pobl i wneud cais am Grant Cynhwysiant Cymunedol.
Meddai:
Rwy’n falch iawn o gefnogi menter gwerth chweil fel hon sy’n caniatáu i bobl dderbyn cymorth ariannol i helpu i sefydlu gweithgaredd neu brosiect yn y gymuned fel clybiau brecwast, cinio neu swper.
Mae’n gynllun gwych gan fod modd defnyddio’r arian hefyd i wella cyfleusterau ar gyfer grwpiau sy’n bodoli eisoes cyhyd â’i fod yn cefnogi iechyd a lles pobl hŷn sy’n byw yn y gymuned.
Rwy’n falch o weld bod y meini prawf cymhwyster wedi’u hymestyn bellach a bod modd cyflwyno ceisiadau ar gyfer cynlluniau sy’n cefnogi oedolion gydag anableddau dysgu neu gorfforol a phroblemau iechyd meddwl.
Rwy’n deall bod grantiau wedi helpu bron i 100 o grwpiau yn y fwrdeistref sirol ers 2012 a byddwn yn annog unrhyw un sydd am sefydlu neu ymestyn grŵp cymunedol i sicrhau ei fod yn gwneud cais.
Sefydlwyd y Grant yn 2012 i ariannu prosiectau sy’n gwella bywydau pobl hŷn sy’n byw yn Wrecsam.
Nod y grant yw helpu pobl i sefydlu gweithgareddau cymunedol neu ymestyn grwpiau sy’n bodoli’n barod. Ymhlith y grwpiau sydd wedi derbyn y grant yn y gorffennol mae Clwb Garddwyr Springfield a Garddwyr Cymunedol Owrtyn.
Gellir defnyddio grantiau ar gyfer sesiynau a gynhelir gan wirfoddolwyr lle gall pobl gyfarfod yn rheolaidd ar gyfer gweithgareddau. Gwahoddir cynigion gan unigolion a sefydliadau ar gyfer gweithgareddau fel dysgu sgiliau newydd, rhannu hobïau a mentrau cymdeithasol/ cydweithfeydd.
Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: [email protected].