Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, urges the First Minister to promote North Wales at a major investment summit next year.
Speaking in the Senedd, Mr Rowlands asked the First Minister, Eluned Morgan what she was doing to encourage investment into North Wales.
The First Minister said that they recognised that North Wales has many strengths that are attractive to investors and she would showcase them at next year’s investment summit.
Mr Rowlands said:
I certainly welcome the announcement of the investment summit for 2025. North Wales has many strengths, in particular its location within the United Kingdom, with infrastructure that works well into North-West England and links into Ireland, and European markets there, as well as having exceptionally skilled people who are entrepreneurial spirits, who want to do their bit in our communities.
One of the benefits of the last UK Conservative Government was its relationship with the Welsh Government in establishing the growth deal and the investment zone in North-East England and the free port in Anglesey.
I wonder how you see using the growth deal investment zone and the free port to attract more of that investment and commit to ensuring that North Wales is talked about loudly and proudly at the investment summit next year?
The First Minister said It was important that we showcase North Wales as it has a huge amount to offer.
Mr Rowlands added:
I am really pleased to hear the First Minister talk so positively about North Wales and I just hope that the Welsh Government will make sure that momentum from the growth deal and the free port will lead to more investment in the region.
Sam Rowlands AS yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog mwy o fuddsoddiad yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog y Prif Weinidog i hyrwyddo’r Gogledd mewn uwchgynhadledd fawr ar fuddsoddi y flwyddyn nesaf.
Wrth siarad yn y Senedd, gofynnodd Mr Rowlands i'r Prif Weinidog, Eluned Morgan, beth oedd hi'n ei wneud i ddenu buddsoddiad i’r Gogledd.
Dywedodd y Prif Weinidog eu bod yn cydnabod bod gan y Gogledd lawer o gryfderau sy'n ddeniadol i fuddsoddwyr ac y byddai'n eu harddangos yn yr uwchgynhadledd fuddsoddi'r flwyddyn nesaf.
Meddai Mr Rowlands:
Rwy'n sicr yn croesawu cyhoeddi'r uwchgynhadledd fuddsoddi ar gyfer 2025. Mae gan y gogledd lawer o gryfderau, yn enwedig ei leoliad o fewn y Deyrnas Unedig, â seilwaith sy'n gweithio ymhell i ogledd-orllewin Lloegr ac yna'n cysylltu ag Iwerddon, â marchnadoedd Ewropeaidd yno hefyd, yn ogystal â bod â phobl eithriadol o fedrus sy'n eneidiau entrepreneuraidd, sydd eisiau chwarae eu rhan yn ein cymunedau.
Un o fanteision Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf y DU, wrth gwrs, oedd ei pherthynas â Llywodraeth Cymru wrth sefydlu'r fargen twf a'r parth buddsoddi yng ngogledd-ddwyrain Lloegr a'r porthladd rhydd yn Ynys Môn hefyd.
Felly, tybed sut rydych chi'n gweld defnyddio parth buddsoddi'r fargen twf a'r porthladd rhydd i ddenu mwy o'r buddsoddiad hwnnw. Ac a wnewch chi, unwaith eto, ymrwymo heddiw i sicrhau bod y gogledd yn destun trafod eglur a balch yn yr uwchgynhadledd fuddsoddi y flwyddyn nesaf?
Dywedodd y Prif Weinidog ei bod yn bwysig ein bod yn arddangos y Gogledd gan fod ganddo lawer iawn i'w gynnig.
Ychwanegodd Mr Rowlands:
Rwy'n falch iawn o glywed y Prif Weinidog yn siarad mor gadarnhaol am y Gogledd ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd momentwm o'r fargen dwf a'r porthladd rhydd yn arwain at fwy o fuddsoddiad yn y rhanbarth.