Mr Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales says Welsh Government should ‘shoulder some of the blame’ for council tax hikes.
This week Conwy County Borough Council announced a 9.67% Council Tax rise, which follows 9.4% in Denbighshire and 9% in Flintshire.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government said:
I really can’t believe what I am seeing these days with eye watering tax hikes in my constituency of North Wales and I am extremely concerned for my constituents.
The Welsh Government’s underfunding of councils is having a grim impact on household budgets in Wales.
When council tax increases hit doormats across the country, hard-pressed residents should point the finger at the Labour Government and their funding formula which shortchanges so many councils.
It’s time for the Labour Welsh Government to reform the funding formula, or councils will continue to be forced to balance their budgets on the backs of residents.
Sam Rowlands AS yn galw ar Lywodraeth Lafur Cymru i ddiwygio’r fformiwla gyllido ar gyfer cynghorau lleol
Dywedodd Mr Rowlands, Aelod o Senedd Cymru dros Ogledd Cymru, y dylai Llywodraeth Cymru ysgwyddo rhywfaint o’r bai am y codiadau sylweddol yn y dreth gyngor.
Yr wythnos hon cyhoeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gynnydd o 9.67% yn y Dreth Gyngor, sy’n dilyn cynnydd o 9.4% yn Sir Ddinbych a 9% yn Sir y Fflint.
Dywedodd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid:
Dwi wir ddim yn credu be dwi’n weld ar hyn o bryd gyda chynnydd poenus o uchel mewn trethi yn fy etholaeth yn y Gogledd ac rwy’n bryderus iawn am fy etholwyr.
Mae tanwariant Llywodraeth Cymru ar gynghorau yn cael effaith ddifrifol ar gyllidebau cartrefi Cymru.
Pan fydd biliau treth gyngor uwch yn cyrraedd drwy’r post ar draws y wlad, dylai trigolion sy’n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd fwrw’r bai ar Lywodraeth Lafur a’i fformiwla gyllido sy’n gadael cymaint o gynghorau’n brin o arian.
Mae’n bryd i Lywodraeth Lafur Cymru ddiwygio’r fformiwla gyllido, neu bydd cynghorau’n parhau i gael eu gorfodi i fantoli eu cyllidebau ar draul trigolion.