Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has expressed his concern at the havoc caused by Storm Darragh over the weekend.
Mr Rowlands was commenting after reports of widespread flooding in parts of Wrexham and Flintshire and damage to buildings in North East Wales.
He said:
My heart goes out to anyone who has been impacted by Storm Darragh which has caused widespread disruption across the region.
Many areas have again been flooded because of the heavy rain and strong winds which wreaked havoc all over North Wales. At one time even part of the A55 at Holywell had to be closed because of flooding and many people were without power for several hours.
I feel very sad for all those who have once again borne the brunt of this fearsome storm and for those who got caught up in this extremely bad weather.
My thanks also go to everybody who have been out and about helping residents and businesses during this difficult time.
Storm Darragh which hit North Wales in the early hours of Saturday morning brought heavy rain and strong winds leaving a trail of damage and travel chaos.
Flying debris and falling trees caused problems all over the area with damage to buildings and homes with roofs blown off and power lines brought down
There was also road closures and delays and cancellations to bus, train, ferry services and flights.
In Flintshire and Wrexham it caused widespread disruption with flooding, road closures, and power outages affecting the county.
There was also damage to Hawarden High School when part of the roof was affected by the strong winds and another Ysgol Y Waun junior school, in Chirk had its roof blown off.
Sam Rowlands AS yn trafod effaith Storm Darragh yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi mynegi ei bryder am y dinistr a achoswyd gan Storm Darragh dros y penwythnos.
Roedd Mr Rowlands yn gwneud y sylw wedi adroddiadau o lifogydd eang mewn rhannau o Wrecsam a Sir y Fflint a difrod i adeiladau yng ngogledd-ddwyrain Cymru.
Meddai:
Rwy’n cydymdeimlo gydag unrhyw un sydd wedi cael ei effeithio gan Storm Darragh, sydd wedi achosi problemau enbyd ar draws y rhanbarth.
Mae llawer o ardaloedd wedi dioddef llifogydd unwaith eto yn sgil y glaw trwm a'r gwyntoedd cryfion a wnaeth achosi dinistr ledled y Gogledd. Ar un adeg bu'n rhaid cau rhan o'r A55 yn Nhreffynnon hyd yn oed oherwydd llifogydd ac roedd llawer o bobl heb bŵer am oriau.
Rwy'n teimlo'n drist iawn dros bawb sydd unwaith eto wedi dioddef yn sgil y storm ofnadwy hon ac i'r rhai a gafodd eu dal yn y tywydd garw.
Hoffwn ddiolch hefyd i bawb sydd wedi bod allan yn helpu preswylwyr a busnesau yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Daeth Storm Darragh, a darodd y Gogledd yn yr oriau mân fore Sadwrn, â glaw trwm a gwyntoedd cryfion gan adael llwybr o ddifrod ac anhrefn i deithwyr.
Fe wnaeth gwynt gario malurion a chwympo coed, gan achosi problemau ledled yr ardal gyda difrod i adeiladau a chartrefi gyda thoeau wedi'u chwythu i ffwrdd a llinellau pŵer ar lawr.
Bu’n rhaid cau ffyrdd a gohirio a chanslo gwasanaethau bws, trên a fferi a hediadau.
Yn Sir y Fflint a Wrecsam, cafwyd aflonyddwch eang gyda llifogydd, cau ffyrdd, a thoriadau pŵer yn effeithio ar y sir.
Roedd yna ddifrod hefyd i Ysgol Uwchradd Penarlâg pan gafodd rhan o'r to ei effeithio gan y gwyntoedd cryfion a chollodd ysgol arall, sef Ysgol Gynradd Y Waun, ei tho i’r gwyntoedd cryfion.