Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has called on the Welsh Government to do more to attract visitors to Wales.
Mr Rowlands, a keen supporter of the tourist industry was commenting during the Welsh Conservative debate, in the Senedd, on tourism
He said:
One of the things that I love to do whenever I'm out and about, away from Wales, is talking about how wonderful Wales is to visit, encouraging more tourists to come to this great country of ours to visit our attractions, our destinations and locations all over the country, with our unique heritage and incredible landscapes.
That's why tourism is a huge part of our Welsh economy, over 5% of our GDP, because it's such an incredible place to visit. It's not something that we should be running away from or be nervous about in terms of encouraging people to come and visit and enjoy their time here and we should be making the most of it and getting a grip of the opportunity that's in front of us.
The pandemic made such an impact on the sector with livelihoods sadly destroyed and businesses being permanently shut what that required and still does, in my view, is a sensitive approach from a Welsh Government.
It requires a Government that would do everything it could to help build back the tourism sector with more jobs and more money flowing into the Welsh economy, and, as a result, reducing poverty in our communities. Sadly, that is not what we're seeing from this Welsh Government.
We're seeing the operation of tourism-related businesses being made even more difficult through the arbitrary increase in the occupancy threshold for properties up to 182 days, and the punitive tourism tax. I find it a puzzling way to treat an industry, a sector, that accounts for one in nine jobs, and in my region of North Wales one in seven jobs.
As a core part of our economy, tourism needs all the support it can get, and it's not getting that from this Welsh Government at the moment.
Sam Rowlands AS yn poeni am ddyfodol twristiaeth yng Nghymru
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i ddenu ymwelwyr i Gymru.
Roedd Mr Rowlands, un o gefnogwyr brwd y diwydiant twristiaeth yn siarad yn ystod dadl y Ceidwadwyr Cymreig, yn y Senedd, ar dwristiaeth
Meddai:
Un o'r pethau rydw i wrth fy modd yn ei wneud pryd bynnag rydw i allan, i ffwrdd o Gymru, yw siarad am ba mor wych yw Cymru fel lle i ymweld â hi, gan annog mwy o dwristiaid i ddod i'r wlad wych hon i weld ein hatyniadau, ein cyrchfannau a'n lleoliadau ledled y wlad, gyda'n treftadaeth unigryw a'n tirweddau anhygoel.
Dyna pam mae twristiaeth yn rhan enfawr o'n heconomi yng Nghymru, dros 5% o'n cynnyrch domestig gros, oherwydd ei bod yn wlad mor anhygoel i ymweld â hi. Nid yw'n rhywbeth y dylen ni gadw’n ddistaw amdano na bod yn nerfus o ran annog pobl i ddod i ymweld a mwynhau eu hamser yma a dylem fod yn gwneud y gorau ohono a manteisio ar y cyfle sydd o'n blaenau.
Cafodd y pandemig gymaint o effaith ar y sector gyda bywoliaethau yn cael eu dinistrio yn anffodus a busnesau yn mynd i’r wal a’r hyn sydd ei angen, yn fy marn i, yw ddull sensitif gan Lywodraeth Cymru.
Mae'n gofyn am Lywodraeth fyddai'n gwneud popeth o fewn ei gallu i helpu i roi'r sector twristiaeth yn ôl ar ei draed gyda mwy o swyddi a mwy o arian yn llifo i economi Cymru, ac, o ganlyniad, lleihau tlodi yn ein cymunedau. Yn anffodus, dydy Llywodraeth Cymru ddim yn gwneud hynny.
Rydyn ni’n gweld busnesau sy'n ymwneud â thwristiaeth yn ei chael hi’n anoddach fyth drwy'r cynnydd yn y trothwy meddiannaeth ar gyfer eiddo hyd at 182 diwrnod, a'r dreth dwristiaeth sy’n cosbi. Mae’n ffordd od iawn o drin diwydiant, sector, sy'n cyfrif am un o bob naw swydd, ac un o bob saith swydd yn fy rhanbarth i yng Ngogledd Cymru.
Fel rhan greiddiol o'n heconomi, mae twristiaeth angen yr holl gefnogaeth y gall ei chael, ac nid yw'n cael hynny gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd.