
Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, says closure of a Wrexham radio studio is a blow for the Welsh language media.
The studio in Gwersyllt was previously home to Marcher Sound radio group, Heart and now run by Capital.
Speaking in the Senedd, Mr Rowlands, Shadow Cabinet Secretary for Finance asked the Finance Secretary, Mark Drakeford what he was doing to support the Welsh language media.
Mr Rowlands said:
You'll be aware that Global are closing their studio in Wrexham, including the Capital Cymru station, which will mean 12 jobs are lost at the site.
Global, of course, will have their commercial reasons for this decision, but that will mean less Welsh language broadcasting, which, of course, is a blow for Welsh speakers and learners alike.
Cabinet Secretary, what do you think the Welsh Government could do to make the media landscape in Wales more attractive for operators of Welsh-medium radio and television, not necessarily direct intervention or direct support, but making that landscape more attractive for them, both on a commercial and, perhaps, at times, on a non-commercial basis?
Mr Drakeford said while he regretted and regarded the decisions which have been made as a backward step he thought there was very strong and successful activity in this area.
Mr Rowlands added:
It is always very disappointing to hear of any businesses closing and jobs being lost in my region and particularly when the radio studio has been part of Wrexham for many years.
It is also sad to see the closure of the Capital Cymru radio station, which broadcasts in Welsh, and provided a Welsh language service.
Sam Rowlands AS yn poeni am golli stiwdio radio yn Wrecsam
Yn ôl Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, mae cau stiwdio radio yn Wrecsam yn ergyd i'r cyfryngau Cymraeg.
Arferai’r stiwdio yng Ngwersyllt fod yn gartref i grŵp radio Sain y Gororau/Marcher Sound, Heart ac erbyn hyn mae'n cael ei redeg gan Capital.
Wrth siarad yn y Senedd, gofynnodd Mr Rowlands, Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid yr Wrthblaid i'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford beth oedd yn ei wneud i gefnogi'r cyfryngau Cymraeg.
Meddai Mr Rowlands:
Fe fyddwch yn ymwybodol fod Global yn cau eu stiwdio yn Wrecsam, gan gynnwys gorsaf Capital Cymru, a fydd yn golygu colli 12 o swyddi ar y safle.
Bydd gan Global eu rhesymau masnachol dros y penderfyniad hwn, ond bydd hynny’n golygu llai o ddarlledu yn y Gymraeg, sy'n ergyd i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr fel ei gilydd.
Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, beth y credwch chi y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i wneud y dirwedd gyfryngol yng Nghymru yn fwy deniadol i weithredwyr radio a theledu cyfrwng Cymraeg, nid o reidrwydd drwy ymyrraeth uniongyrchol neu gymorth uniongyrchol, ond gwneud y dirwedd honno'n fwy deniadol iddynt, ar sail fasnachol, ac efallai ar adegau, ar sail anfasnachol?
Er ei fod yn gresynu ac o’r farn bod y penderfyniadau sydd wedi eu gwneud yn gam yn ôl, dywedodd Mr Drakeford ei fod o’r gred fod gweithgarwch cryf a llwyddiannus iawn yn y maes hwn.
Ychwanegodd Mr Rowlands:
Mae bob amser yn siomedig iawn clywed am unrhyw fusnesau yn cau a swyddi'n cael eu colli yn fy rhanbarth, ac yn enwedig pan mae'r stiwdio radio wedi bod yn rhan o Wrecsam ers blynyddoedd lawer.
Mae'n drist hefyd gweld bod gorsaf radio Capital Cymru, sy'n darlledu yn Gymraeg, ac yn darparu gwasanaeth Cymraeg, yn cau.