Sam Rowlands MS for North Wales has expressed concern over the amount of time police spend dealing with health issues.
Speaking in the Senedd, Mr Rowlands, Welsh Conservative Shadow Minister for Local Government said:
Last month, I had the pleasure of joining North Wales Police on one of their shifts, and had the privilege, of also seeing the fantastic work that they carry out for us in our communities.
I spent time with them 10 years previously to observe the work that they do. One of the things that I observed about the difference between 10 years ago and now is the increased difficulties of health service pressures on our police officers and on the police force.
This increase in pressures has seen police officers dealing with defibrillators, tied up in A&E for hours on end, at times, waiting for those they may have arrested to be seen, along with assisting with mental health issues.
It is clear to me that the health service pressures are taking police officers away from their usual role, and this could lead to our police forces being overrun away from their traditional work.
Mr Rowlands asked Social Justice Minister, Jane Hutt, what discussions has she had with North Wales Police regarding the impact of health service responsibilities on their workload and what assessment has made of the increasing pressures on police officers.
The Minister said:
Thank you very much, Sam Rowlands, for bringing this to our attention and congratulations on joining the shift.
We work with policing colleagues, so the chief constables, the police and crime commissioners, and the Secretary of State for Wales joins us, so it is devolved and non-devolved. But let's also recognise the hard work that's undertaken by our police people across Wales.
Sam Rowlands AS yn poeni am yr effaith y mae pwysau ar y gwasanaeth iechyd yn ei chael ar Heddlu Gogledd Cymru
Mae Sam Rowlands, yr Aelod Rhanbarthol o’r Senedd dros y Gogledd, wedi mynegi pryder am yr amser y mae'r heddlu'n ei dreulio’n ymdrin â materion iechyd.
Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol i’r Ceidwadwyr Cymreig:
Fis diwethaf, cefais y pleser o ymuno â Heddlu Gogledd Cymru ar un o'u shifftiau, a chefais y fraint hefyd o weld hefyd y gwaith gwych maen nhw'n ei wneud i ni yn ein cymunedau.
Treuliais amser gyda nhw 10 mlynedd yn ôl hefyd yn arsylwi ar y gwaith maen nhw'n ei wneud. Un o'r pethau y sylwais sy'n wahanol rhwng 10 mlynedd yn ôl a nawr yw'r anawsterau cynyddol sy'n gysylltiedig â phwysau ar y gwasanaeth iechyd ac sy’n effeithio ar swyddogion yr heddlu ac ar yr heddlu’n gyffredinol.
Mae'r pwysau cynyddol hwn wedi gweld swyddogion yr heddlu yn gorfod ymdrin â diffibrilwyr, aros mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys am oriau er mwyn i'r rhai y gallen nhw fod wedi'u harestio gael eu gweld, ynghyd â chynorthwyo gyda phroblemau iechyd meddwl.
Mae'n amlwg i mi fod y pwysau ar y gwasanaeth iechyd yn tynnu swyddogion yr heddlu i ffwrdd o’u rôl arferol, a gallai hyn olygu bod heddluoedd yn cael eu llethu yn gwneud gwaith nad yw’n rhan o'u gwaith traddodiadol.
Gofynnodd Mr Rowlands i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, pa drafodaethau mae hi wedi'u cael gyda Heddlu Gogledd Cymru ynghylch effaith cyfrifoldebau'r gwasanaeth iechyd ar eu llwyth gwaith a chanfyddiad asesiad o'r pwysau cynyddol ar swyddogion yr heddlu.
Dywedodd y Gweinidog:
Diolch yn fawr iawn i Sam Rowlands am dynnu ein sylw ni at hyn a llongyfarchiadau i Sam ar ymuno â'r shifft.
Rydym yn gweithio gyda’n cydweithwyr ym maes plismona, felly mae'r prif gwnstabliaid, y comisiynwyr heddlu a throseddu ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymuno â ni. O’r herwydd, mae’n fater sydd wedi'i ddatganoli a heb ei ddatganoli. Ond gadewch i ni hefyd gydnabod y gwaith caled sy'n cael ei wneud gan ein swyddogion heddlu ledled Cymru.