Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, says Labour run Welsh Government must do more to attract tourists to Wales.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and Chair of the Welsh Parliament’s Cross-Party Group on Tourism was commenting after the Welsh Affairs Committee said it was concerned that Wales attracts ’such a small proportion’ of international visitors.
He said:
Everybody knows how passionate I am about encouraging tourism in my Region of North Wales and this report does not make for good reading and I am extremely disappointed.
In 2019, 41 million international holidaymakers visited the UK, with just over one million coming to Wales. I think this is quite scandalous and clearly something needs to be done as soon as possible to increase these numbers.
Time and time again I have raised tourism issues in Welsh Parliament yet my calls always seem to fall on deaf ears. I am appalled but not surprised that the report highlights poor transport links and lack of holiday packages as two of the reasons tourists are not attracted to our beautiful country.
Tourism is big business in North Wales, in particular, yet the Labour Welsh Government continue to hamper its growth with its crippling 182 day holiday let regulations and the soon to be introduced tourism tax.
It is about time we began to promote our country and supported the thousands of people who live and work in the tourism industry.
Sam Rowlands AS yn poeni am ddiffyg twristiaid rhyngwladol yn ymweld â Chymru
Dywed Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, bod yn rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru wneud mwy i ddenu twristiaid i Gymru.
Gwnaed y sylw gan Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid a Chadeirydd Grŵp Trawsbleidiol Senedd Cymru ar Dwristiaeth ar ôl i'r Pwyllgor Materion Cymreig ddweud ei fod yn poeni fod Cymru'n denu 'cyfran mor fach' o ymwelwyr rhyngwladol.
Dywedodd:
Mae pawb yn gwybod pa mor angerddol ydw i am annog twristiaeth yn fy rhanbarth yng Ngogledd Cymru ac mae’r adroddiad hwn yn ergyd a dwi’n hynod siomedig.
Yn 2019, ymwelodd 41 miliwn o bobl ar wyliau rhyngwladol â'r DU, gydag ychydig dros filiwn yn dod i Gymru. Dwi’n credu bod hyn yn warthus ac yn amlwg mae angen gwneud rhywbeth cyn gynted â phosibl i gynyddu'r niferoedd hyn.
Dro ar ôl tro dwi wedi codi materion twristiaeth yn y Senedd ond mae fy ngalwadau fel petaen nhw’n cael eu hanwybyddu bob tro. Dwi’n gresynu ond heb fy synnu bod yr adroddiad yn tynnu sylw at gysylltiadau trafnidiaeth gwael a diffyg pecynnau gwyliau fel rhesymau pam nad yw twristiaid yn cael eu denu i'n gwlad brydferth.
Mae twristiaeth yn fusnes mawr yng Ngogledd Cymru, yn benodol, ac eto mae Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i rwystro ei thwf gyda'i rheoliadau gosod llety gwyliau 182 diwrnod a'r dreth dwristiaeth a fydd yn cael ei chyflwyno cyn bo hir.
Mae'n hen bryd i ni ddechrau hyrwyddo ein gwlad a chefnogi'r miloedd o bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y diwydiant twristiaeth.