Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has called for the new Health Minister to do more to cut waiting lists for glaucoma operations.
Speaking in the Senedd, Mr Rowlands, Shadow Health Minister, took Jeremy Miles, Cabinet Secretary for Health and Social Care to task over the length of time people in Wrexham were waiting for operations compared to Cheshire.
He said:
As a new Health Cabinet Secretary, I do hope we see a more cohesive and positive approach from you to utilising both the private and third sectors in order to support those languishing waiting lists that we see here in Wales at the moment.
That collaborative approach is really important, but, sadly, I don’t think we’ve seen it enough. A live example is that for glaucoma operations in Wrexham at the moment, patients there are waiting three years on a waiting list for a disease that clearly has a massive impact on their daily lives.
If you live in Cheshire, it’s a four-week wait, just across the border, because the health trust there has a partnership arrangement with a private sector company to deliver those operations. A four-week wait in Cheshire, a three-year wait in Wrexham.
Mr Rowlands asked the Cabinet Secretary whether he was ready to use the private sector in the Welsh NHS, following this week’s comments from the First Minister.
Mr Miles said they recognised that their priority to reducing waiting lists means that they will have to look at whatever options are available.
Mr Rowlands added:
As Welsh Conservatives, we have consistently called for greater partnership working with both the private and third sectors to supplement and assist the NHS here in Wales, which sadly is creaking after a quarter of a century of Welsh Labour rule.
We heard again yesterday from the First Minister about this collaboration between the Welsh and UK Governments on cutting waiting lists and working together, and it is remarkable that it was so light on the detail of what the collaboration should look like, because I’m sure, that cutting waiting lists is surely one of your top priorities here in Wales—it’s what the people of Wales want to see.
Sam Rowlands AS yn poeni am restrau aros am lawdriniaethau llygaid yn Wrecsam o'i gymharu â Swydd Gaer
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, wedi galw ar y Gweinidog Iechyd newydd i wneud mwy i dorri rhestrau aros ar gyfer llawdriniaethau glawcoma.
Wrth siarad yn y Senedd, heriodd Mr Rowlands, Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid, Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch yr amser yr oedd pobl yn Wrecsam yn aros am lawdriniaethau o'i gymharu â Swydd Gaer.
Meddai:
Fel Ysgrifennydd Iechyd newydd y Cabinet, rwy'n gobeithio y gwelwn ddull mwy cydlynol a chadarnhaol gennych o ddefnyddio'r sector preifat a'r trydydd sector er mwyn cefnogi'r rhestrau aros di-ri sydd gennym yma yng Nghymru ar hyn o bryd.
Mae'r dull cydweithredol hwnnw yn bwysig iawn, ond, yn anffodus, dydw i ddim yn credu ein bod ni wedi gweld digon ohono. Mae sefyllfa llawdriniaethau glawcoma yn Wrecsam ar hyn o bryd yn enghraifft o’r fath, gyda chleifion yno yn gorfod aros am dair blynedd ar restr aros ar gyfer clefyd sy'n amlwg yn cael effaith enfawr ar eu bywydau bob dydd.
Os ydych chi'n byw yn Swydd Gaer, ychydig dros y ffin, byddwch yn aros pedair wythnos oherwydd bod gan yr ymddiriedolaeth iechyd yno drefniant partneriaeth gyda chwmni sector preifat i gyflawni'r llawdriniaethau hynny. Pedair wythnos o aros yn Swydd Gaer, tair blynedd o aros yn Wrecsam.
Gofynnodd Mr Rowlands i Ysgrifennydd y Cabinet a oedd yn barod i ddefnyddio'r sector preifat yn GIG Cymru, yn dilyn sylwadau'r Prif Weinidog yr wythnos hon.
Dywedodd Mr Miles eu bod yn cydnabod bod eu blaenoriaeth i leihau rhestrau aros yn golygu y bydd yn rhaid iddyn nhw edrych ar ba bynnag opsiynau sydd ar gael.
Ychwanegodd Mr Rowlands:
Fel Ceidwadwyr Cymreig, rydyn ni wedi galw'n gyson am fwy o weithio mewn partneriaeth gyda'r sector preifat a'r trydydd sector i ategu a chynorthwyo'r GIG yma yng Nghymru, sydd, yn anffodus, dan bwysau enfawr ar ôl chwarter canrif dan arweiniad Llafur Cymru.
Clywsom eto ddoe gan y Prif Weinidog am y cydweithio hwn rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU ar dorri rhestrau aros ond mae'n rhyfeddol cyn lleied o fanylion sydd yna ar sut y dylai'r cydweithio edrych, oherwydd mae torri rhestrau aros yn ddi-os yn un o'ch prif flaenoriaethau yma yng Nghymru - dyna mae pobl Cymru eisiau ei weld.