Sam Rowlands MS for North Wales has welcomed a further cash injection from the National Lottery to help projects in his region.
He said:
I am delighted to see more funds being made available with a total of £426,443 being awarded to many schemes across North Wales by the National Lottery Community Fund since November 2021.
We have many different initiatives all over my region and it is really heart-warming to hear about this vital support for our communities.
There are so many deserving schemes and I was particularly delighted to see a grant of £247,802 being awarded to the Prestatyn & Meliden Community Action Group. The grant will help support targeted programmes over three years to support young people and the wider community.
Two Wrexham based projects are also set to receive £10,000 each. The Rock Works Academy Ltd, which delivers free music sessions to young people and vulnerable adults and Wrexham Africa Community, which provides traditional African food packs to the African community.
Flintshire based Arts and Soul Tribe CIC is also being awarded £9,450 to develop wellbeing activities and strategies in the local area to support recovery from Covid-19.
They are all excellent projects and in these challenging times it is more important than ever that the support is there for those who need it most.
Sam Rowlands AS yn falch iawn o weld rhagor o gyllid yn cael ei ddyfarnu i brosiectau yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, AS dros Ogledd Cymru, wedi croesawu rhagor o arian gan y Loteri Genedlaethol i helpu prosiectau yn ei ranbarth.
Meddai:
Rwyf wrth fy modd yn gweld rhagor o arian ar gael gyda chyfanswm o £426,443 yn cael ei ddyfarnu i lawer o gynlluniau ledled y Gogledd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ers mis Tachwedd 2021.
Mae gennym lawer o wahanol fentrau ym mhob rhan o’m rhanbarth ac mae’n galondid clywed am y gefnogaeth hanfodol hon i’n cymunedau.
Mae cymaint o gynlluniau haeddiannol ac roeddwn i’n falch iawn o weld grant o £247,802 yn cael ei ddyfarnu i Grŵp Gweithredu Cymuned Prestatyn a Alltmelyd. Bydd y grant yn helpu i gefnogi rhaglenni wedi’u targedu dros y tair blynedd nesaf i gefnogi pobl ifanc a’r gymuned ehangach.
Bydd dau brosiect yn Wrecsam hefyd yn derbyn £10,000 yr un. The Rock Works Academy Ltd, sy’n cynnig sesiynau cerddoriaeth am ddim i bobl ifanc ac oedolion bregus a Chymuned Africa Wrecsam, sy’n darparu pecynnau bwyd Affricanaidd traddodiadol i’r gymuned Affricanaidd.
Mae Arts and Soul Tribe CIC yn Sir y Fflint hefyd yn derbyn £9,450 i ddatblygu gweithgareddau a strategaethau lles yn yr ardal leol i gefnogi’r ymdrech i ddod dros Covid-19.
Mae’r rhain i gyd yn brosiectau rhagorol ac mewn cyfnod mor anodd mae’n bwysicach nag erioed fod y gefnogaeth yno i’r rhai sydd ei hangen fwyaf.