Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed news that a hotel in his region has been named in the top 10 for best Autumn breaks under £200 in Britain.
Mr Rowlands, chair of the Senedd’s Cross-Party Group on Tourism, was commenting after the newly refurbished Bridge End Hotel, Llangollen was named on a list by a national newspaper.
He said:
Everyone knows how passionate I am about tourism in North Wales and hearing about accolades like this just enhances the importance of this sector in my region.
I have said many times that Llangollen is a lovely part of North Wales and I am delighted to see this newly refurbished hotel on the list and congratulations must go to everyone involved in this investment.
It is great to see the Bridge End Hotel being named along with places in Brighton, Cornwall and Edinburgh and fantastic news for North Wales and the tourism industry.
The town is an extremely popular tourist destination and as a very keen supporter of attracting visitors to this lovely part of the world it is good to see North Wales once again being put very firmly on the tourist map.
The Bridge End Hotel, located at the end of Llangollen High Street, overlooking the River Dee, and the Llangollen and Corwen steam railway has just reopened after a complete refurbishment of its hotel rooms, bar, restaurant and function room.
It was recently named one of the top 10 best new British hotels for an Autumn break under £200 by the Telegraph newspaper.
Sam Rowlands AS wrth ei fodd yn gweld tref yng Ngogledd Cymru yn derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol am le i aros
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi croesawu'r newyddion fod gwesty yn ei ranbarth wedi cael ei enwi yn y rhestr o’r 10 gwyliau gorau yn yr Hydref o dan £200 ym Mhrydain.
Roedd Mr Rowlands, cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol ar Dwristiaeth y Senedd, yn siarad ar ôl i Westy'r Bridge End, sydd newydd gael ei adnewyddu yn Llangollen, gael ei enwi ar restr gan bapur newydd cenedlaethol.
Dywedodd:
Mae pawb yn gwybod pa mor angerddol ydw i am dwristiaeth yn y Gogledd ac mae clywed am wobrau fel hyn yn hybu pwysigrwydd y sector hwn yn fy rhanbarth.
Rydw i wedi dweud ganwaith fod Llangollen yn rhan hyfryd o’r gogledd ac rwy'n falch iawn o weld y gwesty hwn, sydd newydd ei adnewyddu, ar y rhestr. Rhaid llongyfarch pawb sy'n gysylltiedig â'r buddsoddiad hwn.
Mae'n wych gweld Gwesty'r Bridge End yn cael ei enwi ynghyd â lleoedd yn Brighton, Cernyw a Chaeredin ac mae’n newyddion gwych i Ogledd Cymru a'r diwydiant twristiaeth.
Mae'r dref yn gyrchfan boblogaidd iawn i dwristiaid ac fel un sy’n frwd dros ddenu ymwelwyr i'r rhan hyfryd hon o'r byd, mae'n dda gweld Gogledd Cymru unwaith eto yn gwneud ei marc ar y map twristiaeth.
Mae Gwesty'r Bridge End, sydd wedi'i leoli ar ben Stryd Fawr Llangollen ac yn edrych dros Afon Dyfrdwy a rheilffordd stêm Llangollen a Chorwen, newydd ailagor ei ddrysau ar ôl adnewyddu ei ystafelloedd, y bar, y bwyty a’r ystafell ddigwyddiadau.
Yn ddiweddar, cafodd ei enwi gan bapur newydd y Telegraph fel un o'r 10 gwesty Prydeinig newydd gorau am seibiant yn ystod yr hydref o dan £200.