Sam Rowlands MS for North Wales has praised volunteers for helping put their hospital radio station on the national map.
Mr Rowlands has congratulated everyone involved in Radio Ysbyty Gwynedd for being crowned the best hospital radio station in the UK.
He said:
I am absolutely delighted to hear that a local hospital radio station in my region of North Wales has come out on top in a national competition.
Volunteers who help to provide this valuable and much needed service deserve our heartfelt thanks and it is great to see all their hard work being recognised.
They carry out an amazing job keeping patients informed and entertained all day long and no doubt helping them with their recovery.
I am looking forward to visiting the studio and thanking them all in person.
Radio Ysbyty Gwynedd was awarded the title of Station of the Year for 2022 by the Hospital Broadcasting Association, HBA, which is the national charity that supports and promotes Hospital Broadcasting in the UK.
The award showcases the best of hospital radio, from the interaction with station listeners to the delivery of an engaging station output. The entry also showed the judges a variety of programme content from the station and included material from any special programmes or events covered during the year.
The Judges commented: "This station shows unbounded warmth, positivity and includes some great voices on air. All the variety of programmes you’d expect are in this entry and the quality of the speech content is first class. What struck us most was just the professional tone of a station that we’d never heard before – a really lovely listen."
The station is run completely on a voluntary basis with a staff of all ages who ward visit, present programmes, fundraise and go around the community recording programmes of local interest.
The HBA is managed by a committee elected from its membership and is staffed entirely by volunteers and currently consists of 170 individual broadcasting stations across the UK.
Sam Rowlands AS yn falch iawn o weld Radio Ysbyty Gwynedd yn ennill gwobr genedlaethol
Mae Sam Rowlands, AS dros Ogledd Cymru, wedi canmol gwirfoddolwyr am helpu i roi gorsaf radio ysbyty ar y map cenedlaethol.
Mae Mr Rowlands wedi llongyfarch pawb sy’n cyfrannu at Radio Ysbyty Gwynedd am gael ei choroni'r orsaf radio ysbyty orau yn y DU.
Meddai:
Rwy’n hynod falch o glywed bod yr orsaf radio ysbyty leol yn fy rhanbarth yma yn y Gogledd wedi ennill cystadleuaeth genedlaethol.
Mae’r gwirfoddolwyr sy’n helpu i ddarparu’r gwasanaeth gwerthfawr a mawr ei angen hwn yn haeddu diolch ac mae’n wych gweld eu holl waith caled yn cael ei gydnabod.
Maent yn gwneud gwaith anhygoel yn rhannu gwybodaeth ac yn diddanu cleifion drwy’r dydd a does dim dwywaith eu bod yn helpu’r cleifion i wella.
Rwy’n edrych ymlaen at ymweld â’r stiwdio a diolch iddyn nhw yn bersonol.
Enillodd Radio Ysbyty Gwynedd deitl Gorsaf y Flwyddyn ar gyfer 2022 gan yr Hospital Broadcasting Association (HBA) sef yr elusen genedlaethol sy’n cefnogi a hyrwyddo darlledu mewn ysbytai yn y DU.
Mae’r wobr yn arddangos y gorau o radio ysbytai hefyd, o’r rhyngweithio gyda gwrandawyr gorsaf i glywed cynnwys diddorol ar orsaf radio. Roedd yr enillydd hefyd wedi dangos i’r beirniaid bod cynnwys rhaglenni’n amrywiol ar yr orsaf a’i fod yn cynnwys deunydd o unrhyw raglenni neu ddigwyddiadau arbennig y rhoddwyd sylw iddynt yn ystod y flwyddyn.
Meddai’r beirniaid: “Mae’r orsaf hon yn dangos cynhesrwydd a phositifrwydd anhygoel ac mae’n cynnwys lleisiau gwych ar yr awyr. Mae’r holl amrywiaeth o raglenni y byddech chi’n ei ddisgwyl ei gael ar yr orsaf hon ac mae ansawdd y cynnwys siarad o’r radd flaenaf. Yr hyn a wnaeth yr argraff fwyaf arnom ni oedd naws broffesiynol gorsaf nad oedden ni erioed wedi ei chlywed o’r blaen – roedd yn brofiad hyfryd cael gwrando.”
Mae’r orsaf yn cael ei rhedeg yn gwbl wirfoddol gyda staff o bob oed sy’n ymweld â wardiau, cyflwyno rhaglenni, codi arian a mynd o gwmpas y gymuned yn recordio rhaglenni o ddiddordeb lleol.
Mae’r HBA yn cael ei rheoli gan bwyllgor a etholir o’i haelodaeth ac mae’n cael ei staffio’n llwyr gan wirfoddolwyr. Ar hyn o bryd mae’n cynnwys 170 o orsafoedd darlledu unigol ledled y DU.