Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed news that Ruthin Gaol is set to open its doors to the public again next month.
This popular tourist attraction, which is very much a part of the town’s history has been closed for the past two years for flood recovery work.
Mr Rowlands, who chairs the Welsh Parliament’s Cross Party Group on Tourism said:
I am delighted to see Ruthin Gaol reopening for business. This fantastic tourist attraction which is set in the popular town of Ruthin offers the ideal visitor experience.
It is great to see that the restoration includes some exciting additions which will tempt even more visitors to this lovely part of the world.
We are really blessed in North Wales with so many different attractions for tourists, from beautiful beaches and coastline to mountains and scenic countryside.
Tourism is vitally important to North Wales and employs around 40,000 people and contributes around £3.5 billion a year to the local economy. It is good news that Ruthin Gaol will soon be attracting visitors once again.
After two years of flood recovery work, Ruthin Gaol is set to reopen its cell doors to visitors from the April 1.
The Gaol basement has now been restored to reveal the magnificence of the original brickwork, giving visitors a truly unique and atmospheric experience.
A new cell has also been developed, telling the story of the prisoners who were transported to Australia from Ruthin Gaol and visitors will also now be able to explore more of the outside spaces of the Gaol.
The Gaol will be open throughout the season, until September 30. It opens daily (Except Tuesdays) from 10:30am - 5pm, with last entry at 4pm.
Sam Rowlands AS wrth ei fodd yn gweld atyniad twristaidd poblogaidd yn Sir Ddinbych yn ailagor
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi croesawu'r newyddion y bydd Carchar Rhuthun yn agor ei ddrysau i'r cyhoedd eto fis nesaf.
Mae'r atyniad poblogaidd hwn i dwristiaid, sy'n rhan fawr o hanes y dref, wedi bod ar gau am y ddwy flynedd diwethaf ar gyfer gwaith adfer yn sgil llifogydd.
Dywedodd Mr Rowlands, sy'n cadeirio Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth:
Rwy'n falch iawn o weld Carchar Rhuthun yn ailagor ar gyfer busnes. Mae'r atyniad twristaidd gwych yma yn nhref boblogaidd Rhuthun yn cynnig y profiad delfrydol i ymwelwyr.
Mae'n wych gweld bod y gwaith adfer yn cynnwys ychwanegiadau cyffrous a fydd yn denu hyd yn oed mwy o ymwelwyr i'r rhan hyfryd hon o'r byd.
Rydyn ni wedi ein bendithio'n fawr yng Ngogledd Cymru gyda chymaint o atyniadau gwahanol ar gyfer twristiaid, o’n traethau a’n harfordir hardd i’n mynyddoedd a’n cefn gwlad syfrdanol.
Mae twristiaeth yn hanfodol bwysig i’r gogledd ac yn cyflogi tua 40,000 o bobl, gan gyfrannu tua £3.5 biliwn y flwyddyn at yr economi leol. Mae'n wych clywed y bydd Carchar Rhuthun yn denu ymwelwyr unwaith eto cyn bo hir.
Ar ôl dwy flynedd o waith adfer yn sgil llifogydd, bydd Carchar Rhuthun yn ailagor drysau ei gelloedd i ymwelwyr o 1 Ebrill.
Mae'r Carchar bellach wedi'i adfer i ddatgelu hyfrydwch y gwaith brics gwreiddiol, gan roi profiad gwirioneddol unigryw ac atmosfferig i ymwelwyr.
Mae cell newydd hefyd wedi’i datblygu, sy’n adrodd hanes y carcharorion a gafodd eu cludo i Awstralia o Garchar Rhuthun ac fe fydd ymwelwyr hefyd nawr yn gallu archwilio mwy o ardaloedd y tu allan i’r Carchardy.
Bydd y Carchar ar agor drwy gydol y tymor, tan 30 Medi. Mae ar agor bob dydd (heblaw dydd Mawrth) o 10:30am - 5pm, gyda'r mynediad olaf am 4pm.