Sam Rowlands, MS for North Wales has expressed his delight at news that I’m A Celebrity... Get Me Out Of Here is returning to Gwyrch Castle, Abergele.
ITV has confirmed today that the show will be back in Abergele, for the 2021 series.
Mr Rowlands, a Trustee at Gwyrch Castle said he was delighted and looked forward to welcoming Ant and Dec with celebrities back to the area.
He said:
It is fantastic to see the show returning to Gwyrch Castle following the success of the series last year and will really help support its ongoing restoration and give the area an important economic boost.
I’m A Celebrity was extremely popular when it was filmed here in 2020 and at one stage it was the most watched TV programme by viewers. It certainly helped to promote the castle and surrounding areas and put North Wales firmly on the tourist map.
It is also good news for the town of Abergele, who made Ant and Dec, along with celebrities and crew very welcome.
It is brilliant news and I am delighted and looking forward to finding out who will be taking part this year.
Gwyrch Castle, which is a beautiful grade I listed historic house and a must-see destination for tourists visiting Wales, was chosen to host the popular TV show last year due to Covid travel restrictions in Australia.
During the series celebrities which included Shane Ritchie, Russell Watson and Victoria Derbyshire, had to take part in daily challenges set in the creepy castle ruins.
The final was won by Giovanna Fletcher with Jordan North finishing runner up.
Sam Rowlands AS 'wrth ei fodd' bod “I'm a Celebrity” yn dychwelyd i Gastell Gwrych yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, AS ar gyfer Gogledd Cymru, wedi dweud ei fod wrth ei fodd â'r newyddion bod y rhaglen deledu "I'm a Celebrity... Get Me Out Of Here" yn dychwelyd i Gastell Gwyrch, Abergele.
Heddiw mae ITV wedi cadarnhau y bydd y sioe yn dychwelyd i Abergele ar gyfer y gyfres yn 2021.
Dywedodd Mr Rowlands, sy'n un o Ymddiriedolwyr Castell Gwrych, ei fod wrth ei fodd â'r newyddion, a'i fod yn edrych ymlaen at groesawu Ant a Dec a'r holl enwogion i'r ardal.
Meddai:
Yn dilyn llwyddiant y gyfres y llynedd, mae'n dda clywed bod y sioe yn dychwelyd i Gastell Gwrych. Bydd y penderfyniad hwn yn rhoi hwb i'r gwaith parhaus o adfer y castell ac yn rhoi hwb economaidd pwysig i'r ardal.
Roedd 'I'm A Celebrity' yn hynod boblogaidd pan gafodd ei ffilmio yma yn 2020, ac ar un adeg roedd yn denu mwy o wylwyr nag unrhyw raglen deledu arall. Roedd yn gymorth enfawr wrth hyrwyddo'r castell a'r ardaloedd cyfagos, gan roi llawer o sylw i Ogledd Cymru fel cyrchfan i ymwelwyr.
Mae'n newyddion da i dref Abergele hefyd. Y llynedd, fe gafodd Ant a Dec a'r holl enwogion a'r criw ffilmio groeso mawr gan drigolion y dref.
Rwyf wrth fy modd â'r newyddion rhagorol hwn ac rwy'n edrych ymlaen at gael gwybod pwy fydd yn cymryd rhan yn y sioe eleni.
Mae Castell Gwrych yn blasty hanesyddol rhestredig gradd I hardd sy'n gyrchfan hynod boblogaidd i ymwelwyr â Chymru. Cafodd ei ddewis i gynnal y sioe deledu boblogaidd y llynedd oherwydd y cyfyngiadau teithio yn Awstralia yn sgil Covid-19.
Roedd y gyfres yn cynnwys enwogion fel Shane Ritchie, Russell Watson a Victoria Derbyshire, a fu’n wynebu heriau gwahanol bob dydd yn adfeilion y castell iasol.
Giovanna Fletcher oedd yn fuddugol yn y pen draw, gyda Jordan North yn ail.