Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging people to have their say on the new name for Wrexham’s new museum.
Construction work is already underway to transform the 167-year-old County Buildings in Wrexham city centre into a brand new national attraction, which will be the home of the Wrexham Museum and Football Museum Wales galleries.
Mr Rowlands, a keen supporter of the development said:
I have been following the progress of this fantastic and ambitious project since it was first known as the ‘Museum of Two Halves’ and I am really happy to see that once again the public being given the opportunity to have the final say.
Wrexham, as we all know, is known all over the world because of its football success and as a keen supporter, I am really looking forward to having a national football museum here in the city.
I would urge people to take the time to share in this historic opportunity to name this new major national attraction.
Two names have been shortlisted for the new museum based on audience research across Wrexham and Wales as a whole, and now it’s your turn to choose your favourite.
Option 1: Tŷ Hanes - means “History House.” It’s a welcoming place to explore the history of Welsh football and Wrexham. The name makes it feel cosy, like a home full of stories to be told.
Option 2: Histordy - combines “histor” from the word history and “stordy” meaning storehouse in Welsh. In Welsh, words ending in “-dy” often mean special places, such as archifdy (archives), injândy (engine house), or goleudy (lighthouse). Histordy is easy to pronounce for both English and Welsh speakers.
The Museum is being developed by Wrexham Council’s museum team in association with museum designers, Haley Sharpe Design, architects Purcell and contractor SWG Construction.
Funding support for the new museum is provided by Wrexham Council, Welsh Government, National Lottery Heritage Fund, UK Government and the Wolfson Foundation.The new museum is set to open in 2026.
Let Wrexham Council, know what you think by filling in this short questionnaire.
Sam Rowlands AS yn annog etholwyr i helpu i ddewis enw ar gyfer atyniad mawr newydd yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn annog pobl i ddweud eu dweud ar yr enw newydd ar gyfer amgueddfa newydd Wrecsam.
Mae gwaith adeiladu eisoes ar y gweill i drawsnewid Adeiladau'r Sir sy’n 167 oed yng nghanol dinas Wrecsam yn atyniad cenedlaethol newydd sbon, a fydd yn gartref i orielau Amgueddfa Wrecsam ac Amgueddfa Bêl-droed Cymru.
Meddai Mr Rowlands, un o gefnogwyr brwd y datblygiad:
Rwyf wedi bod yn dilyn cynnydd y prosiect gwych ac uchelgeisiol hwn ers iddo ddod i’r amlwg gyntaf fel 'Amgueddfa Dau Hanner' ac rwy'n falch iawn o weld bod y cyhoedd yn cael cyfle i gael y gair olaf unwaith eto.
Fel y gwyddom i gyd, mae Wrecsam yn adnabyddus ledled y byd yn sgil ei llwyddiant pêl-droed, ac fel cefnogwr brwd, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gael amgueddfa bêl-droed genedlaethol yma yn y ddinas.
Byddwn yn annog pobl i roi o’u hamser i rannu'r cyfle hanesyddol hwn i enwi'r atyniad cenedlaethol mawr newydd hwn.
Mae dau enw wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer yr amgueddfa newydd yn seiliedig ar ymchwil cynulleidfa ar draws Wrecsam a Chymru gyfan, a nawr eich tro chi yw dewis eich ffefryn.
Opsiwn 1: Tŷ Hanes - Mae'n lle croesawgar i archwilio hanes pêl-droed Cymru a Wrecsam. Mae'r enw'n gwneud iddo deimlo'n glyd, fel cartref sy'n llawn straeon i'w hadrodd.
Opsiwn 2: Histordy - yn cyfuno “histor” o'r gair Saesneg am hanes a “stordy”. Yn Gymraeg, mae geiriau sy'n diweddu gyda “-dy” yn golygu llefydd arbennig yn aml, fel archifdy, injândy, neu oleudy. Mae histordy yn hawdd i'w ynganu i siaradwyr Cymraeg a Saesneg.
Mae'r Amgueddfa yn cael ei datblygu gan dîm amgueddfa Cyngor Wrecsam mewn cydweithrediad â’r dylunwyr amgueddfeydd, Haley Sharpe Design, penseiri Purcell a'r contractwr SWG Construction.
Darperir cymorth ariannol ar gyfer yr amgueddfa newydd gan Gyngor Wrecsam, Llywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU a Sefydliad Wolfson. Bydd yr amgueddfa newydd yn agor yn 2026.
Rhannwch eich barn gyda Chyngor Wrecsam drwy lenwi'r holiadur byr hwn.