Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging budding photographers to enter their best pictures of Welsh monuments for a chance to be featured in the 2025 Cadw Calendar.
Mr Rowlands, Chair of the Welsh Parliament’s Cross-Party Group on Tourism said:
I am always happy to highlight anything which promotes North Wales as we are blessed with so many beautiful historical Cadw sites including the famous, Conwy and Caernarfon Castles, Basingwerk Abbey and St Winefride’s Chapel in Holywell and Valle Crucis Abbey in Llangollen, to name but a few.
All of them are steeped in history and attract thousands of visitors each year and I am sure many of you have been capturing these beautiful places on camera.
This is a wonderful opportunity for your best picture to be featured in an official calendar which will be seen by thousands of people.
Entries for the competition close on Friday January 19 2024 so if you haven’t got a photograph that you have taken already, you have still got a few weeks to find that winning image.
Cadw is a Welsh word meaning ‘to keep’ or ‘to protect’ and cares for our historic places to inspire current and future generations.
The organisation has launched a call for photographs of beautiful Welsh historical sites which could be featured in next year’s official 2025 Cadw calendar.
Whether you’ve visited a well-known castle, explored an ancient monument, or stumbled upon a hidden gem, Cadw wants to see a range of photographs covering all the seasons of the year.
From magnificent, awe-inspiring vistas to intriguing and overlooked details, they are on the lookout for stunning visuals that showcase our buildings and archaeological sites in all their glory.
This is your opportunity to share your photographic talents with a wider audience. Your images could be adorning the walls of homes and offices throughout Wales and the wider world in 2025.
Photographs must be high-resolution, landscape-oriented photographs are preferred; ground shots only - no drone photography; you may submit up to three photos per entry; photos should be original and taken by you and there should be no people in the photographs.
To enter send your photos to [email protected] with the subject line "2025 Cadw Calendar". Include your name, contact information, and a brief description of each photo.
For updates and notifications follow Cadw on Facebook @CadwWales and Instagram @cadwcymruwales.
The selected photos will be featured in the official 2025 Cadw Calendar and successful contributors will receive a complimentary copy of the calendar. Deadline for submissions is Friday January 19 2024.
Sam Rowlands AS yn annog etholwyr i dynnu lluniau wrth ymweld â safleoedd Cadw yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o Senedd Cymru dros y Gogledd, yn annog ffotograffwyr brwd i gyflwyno eu lluniau gorau o henebion Cymru i gael cyfle i gael eu cynnwys yng Nghalendr Cadw 2025.
Dywedodd Mr Rowlands, Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol Senedd Cymru ar Dwristiaeth:
Mae’n bleser bob amser tynnu sylw at unrhyw beth sy'n rhoi cyhoeddusrwydd i’r Gogledd gan fod gennym gymaint o safleoedd hanesyddol hardd Cadw, gan gynnwys cestyll enwog Conwy a Chaernarfon, Abaty Dinas Basing a Chapel Gwenffrewi yn Nhreffynnon ac Abaty Glyn y Groes yn Llangollen, i enwi dim ond rhai.
Mae pob un ohonynt yn gyforiog o hanes ac yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn ac rwy'n siŵr bod llawer ohonoch wedi llwyddo i bortreadu harddwch y lleoedd hyn gyda chamera.
Dyma gyfle gwych i gael eich llun gorau mewn calendr swyddogol a’i weld gan filoedd o bobl.
Dyddiad cau’r gystadleuaeth yw dydd Gwener, 19 Ionawr 2024, felly os nad oes gennych chi ffotograff addas eto, mae gennych chi wythnos neu ddwy i dynnu llun buddugol.
Mae’r gair Cadw yn galw arnom i ‘amddiffyn’, ac mae'r sefydliad yn gwarchod ein lleoedd hanesyddol i ysbrydoli cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Mae'r sefydliad yn chwilio am luniau o safleoedd hanesyddol hardd Cymru y gellid eu cynnwys yng nghalendr swyddogol 2025 Cadw y flwyddyn nesaf.
Efallai eich bod wedi ymweld â chastell adnabyddus, wedi archwilio heneb hynafol, neu wedi dod o hyd i drysor cudd. Mae Cadw’n awyddus i weld amrywiaeth o ffotograffau yn cwmpasu holl dymhorau'r flwyddyn.
O olygfeydd godidog, syfrdanol i fanylion diddorol a all fod yn angof, maent yn chwilio am ddelweddau trawiadol sy'n arddangos ein hadeiladau a'n safleoedd archaeolegol yn eu holl ogoniant.
Dyma’ch cyfle i rannu eich doniau fel ffotograffydd gyda chynulleidfa eang. Gallai eich delweddau fod yn addurno waliau cartrefi a swyddfeydd ledled Cymru a'r byd ehangach yn 2025.
Rhaid i’r ffotograffau: fod o gydraniad uchel, gorau oll os yw ffurf y ffotograff ar draws; lluniau ar y ddaear yn unig - dim ffotograffau drôn; gallwch gyflwyno hyd at dri llun; dylai’r lluniau fod yn rhai gwreiddiol, wedi'u tynnu gennych chi; ni ddylai unrhyw bobl ymddangos yn y lluniau.
I gystadlu, anfonwch eich lluniau at [email protected] gan roi’r teitl: “Calendr Cadw 2025”. Rhowch eich enw, gwybodaeth gyswllt, a disgrifiad byr o bob llun.
I weld hysbysiadau a’r newyddion diweddaraf, dilynwch Cadw ar Facebook @CadwWales ac Instagram @cadwcymruwales.
Bydd y lluniau llwyddiannus yn cael eu cynnwys yng Nghalendr swyddogol Cadw 2025 a bydd cyfranwyr llwyddiannus yn derbyn copi o'r calendr am ddim. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 19 Ionawr 2024.