Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling for councils to bring communities together to celebrate the coronation of the King.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government along with Tom Giffard MS, Shadow Minister for Culture, Tourism and Sport has written top all local authorities in Wales urging them to allow venues to screen the live coronation ceremony on Saturday May 6.
In the letter they say:
To enable everyone across the country to take part in the events over the weekend of the 6th and 7th May, the BBC will be suspending the licence fee as part of a one-off dispensation. This move will allow venues across Wales to screen the live coronation ceremony and the coronation concert.
In light of this, we believe this would be an exciting opportunity for local councils and community groups to broadcast the historic events in town centres and other public spaces via big screens.
Hopefully your authority will be able to put in place such a screening, along with other activities, to bring together the community on what will be a very special occasion.
We look forward to hearing from you on what events you will have in place and if you need any further assistance we would be delighted to help.
Mr Rowlands, a keen supporter of the monarchy added:
I really believe this is a wonderful opportunity for communities to come together and celebrate this momentous occasion.
I am sure many people will already be planning street parties and other events to mark the coronation and hope local councils will encourage this to happen.
Sam Rowlands AS yn annog cynghorau yn y Gogledd i ddathlu Coroni'r Brenin Siarl III
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn galw ar gynghorau i ddod â chymunedau ynghyd i ddathlu coroni'r Brenin.
Mae Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, ynghyd â Tom Giffard AS, Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon yr Wrthblaid wedi ysgrifennu at bob awdurdod lleol yng Nghymru yn eu hannog i ganiatáu lleoliadau i sgrinio seremoni'r coroni’n fyw ddydd Sadwrn 6 Mai.
Yn y llythyr maen nhw'n dweud:
Er mwyn galluogi pawb ledled y wlad i gymryd rhan yn y digwyddiadau dros benwythnos 6 a 7 Mai, bydd y BBC yn atal ffi'r drwydded fel rhan o drefniant unigol. Bydd hyn yn caniatáu i leoliadau ledled Cymru sgrinio seremoni'r coroni’n fyw a'r cyngerdd coroni.
Yn sgil hyn, credwn y byddai’n gyfle cyffrous i gynghorau lleol a grwpiau cymunedol ddarlledu'r digwyddiadau hanesyddol yng nghanol trefi a mannau cyhoeddus eraill ar sgriniau mawr.
Gobeithio y bydd eich awdurdod yn gallu trefnu sgriniau o'r fath, ynghyd â gweithgareddau eraill, i ddod â'r gymuned at ei gilydd ar yr hyn a fydd yn achlysur arbennig iawn.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed gennych chi am y digwyddiadau y byddwch chi’n eu cynnal, ac os oes angen unrhyw gymorth pellach arnoch byddem yn falch iawn o helpu.
Ychwanegodd Mr Rowlands, cefnogwr brwd o'r frenhiniaeth:
Rwyf yn credu’n gryf bod hwn yn gyfle gwych i gymunedau ddod at ei gilydd a dathlu'r achlysur pwysig hwn.
Rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl yn cynllunio partïon stryd a digwyddiadau eraill eisoes i ddathlu'r coroni, a gobeithio y bydd cynghorau lleol yn annog hyn.