Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has called on the Welsh Government to commit to more funding for GPs.
Mr Rowlands, Shadow Health Minister, made the call during a debate in the Senedd on a petition calling for'Fair and Adequate Resourcing of General Practice in Wales'.
The petition was created by Lewis Williams of the British Medical Association as part of their campaign, 'Save our Surgeries' and collected 21,620 signatures.
Mr Rowlands, a harsh critic of the demise of the number of GPs in Wales said:
I think the significance of this petition is shown through the number of people who signed it, over 21,000. It's clear that people across the country also feel that general practice is underfunded and is forced to cope with resources that are inadequate and a workload that is frankly unsustainable.
As it stands, we know that 8% of NHS Wales funding goes towards GPs and GP practice, a percentage that is actually lower than levels from 2005-06, which I think probably reflects a little bit of the value in which GPs are perhaps held at from Welsh Government at the moment. If they were properly valued and understood, then there would be resources to match that.
The reason why we've seen over 100 surgeries in Wales shut down in the last 12 years, with no real sign of reversal, is exactly because of the funding not matching the pressures that they are under. And that's really impacting people across Wales, in particular in rural Wales.
The Welsh Conservatives led a debate based on the BMA Wales Save Our Surgeries campaign in the last couple of months and I echo again the calls that we made in that debate, including asking for the Welsh Government to ensure there is a clear workforce strategy to ensure that we do train, recruit and retain enough GPs for the long term.
We know that they have a core role in improving the well-being of citizens, and, importantly, preventing ill health. and prevention is so much better than cure. Get it right in the first place at a primary care level in our communities, that's exactly the right solution. I repeat calls for the Welsh Government to commit more funding to GPs to deliver the sustainable services that we all want to see in our communities.
Jeremy Miles, Cabinet Secretary for Health and Social Care said the BMA Cymru campaign ‘Save our Surgeries’ and the petition highlighted some very concerning aspects of working in this area. He reassured GPs that they had heard the messages about the huge demands and the pressure on staff welfare, and were taking steps to address these issues.
Mr Rowlands added:
While I appreciate the Cabinet Secretary’s comments I would just like to remind him that Labour Senedd Members recently rejected our calls to improve GP access by adopting BMA Cymru Wales’ key campaign calls and ensuring that every penny arising from the UK Government’s health spending is made available for our Welsh NHS.
There is clearly much more to be done to safeguard the future of our GPs. Their role continues to grow as more people are encouraged to use their services instead of going to A&E departments. However, there does need to be enough GPs to cope with this demand.
Sam Rowlands AS yn mynegi ei bryder parhaus am ddyfodol meddygon teulu yng Nghymru
Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i fwy o gyllid ar gyfer meddygon teulu.
Gwnaeth Mr Rowlands, Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid, yr alwad yn ystod dadl yn y Senedd ar ddeiseb yn galw am 'Adnoddau Teg a Digonol ar gyfer Practisau Cyffredinol yng Nghymru'.
Cafodd y ddeiseb ei chreu gan Lewis Williams o Gymdeithas Feddygol Prydain fel rhan o'u hymgyrch, 'Achub ein Meddygfeydd' a chasglu 21,620 o lofnodion.
Dywedodd Mr Rowlands, sydd wedi beirniadu tranc meddygon teulu yng Nghymru yn llym:
Rwy'n credu bod arwyddocâd y ddeiseb hon i'w weld yn nifer y bobl a'i llofnododd—dros 21,000, rwy'n credu. Mae'n amlwg fod pobl ar draws y wlad hefyd yn teimlo bod ymarfer cyffredinol yn cael ei danariannu a'i fod yn cael ei orfodi i ymdopi ag adnoddau annigonol a llwyth gwaith sy'n anghynaliadwy.
Fel y mae, fe wyddom fod 8 y cant o gyllid GIG Cymru yn mynd i feddygon teulu a phractisau meddygon teulu, canran sydd mewn gwirionedd yn is na'r lefelau yn 2005-06, sydd, yn ôl pob tebyg, yn adlewyrchu ychydig o'r gwerth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar feddygon teulu ar hyn o bryd. Pe byddent yn cael eu gwerthfawrogi'n iawn a'u deall yn iawn, byddent yn cael adnoddau i gyfateb â hynny.
Y rheswm pam ein bod wedi gweld dros 100 o feddygfeydd yng Nghymru yn cau yn ystod y 12 mlynedd diwethaf, heb unrhyw arwydd go iawn o wrthdroi, yw oherwydd nad oes cyllid ar gael i fynd i'r afael â'r pwysau sydd arnynt. Ac mae hynny'n effeithio'n fawr ar bobl ar draws Cymru, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru.
Arweiniodd y Ceidwadwyr Cymreig ddadl yn seiliedig ar ymgyrch BMA Cymru, sef Achubwch Ein Meddygfeydd yn ystod y misoedd diwethaf. Rwy'n adleisio'r galwadau a wnaethom yn y ddadl honno eto, gan gynnwys gofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau bod strategaeth glir ar gyfer y gweithlu i sicrhau ein bod yn hyfforddi, recriwtio a chadw digon o feddygon teulu ar gyfer y tymor hir.
Oherwydd fe wyddom fod ganddynt rôl ganolog i'w chwarae yn gwella llesiant dinasyddion, ac yn bwysig, yn atal afiechyd. Gwyddom fod atal gymaint yn well na gwella. Cael pethau'n iawn yn y lle cyntaf ar lefel gofal sylfaenol yn ein cymunedau—dyna yw'r ateb cywir. Felly, unwaith eto, wrth orffen, diolch i'r deisebydd ac rwy'n ailadrodd y galwadau ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo'r cyllid i feddygon teulu i ddarparu'r gwasanaethau cynaliadwy yr ydym i gyd am eu gweld yn ein cymunedau.
Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod ymgyrch 'Achub ein Meddygfeydd' BMA Cymru a'r ddeiseb yn tynnu sylw at rai agweddau pryderus iawn ar waith yn y maes hwn. Sicrhaodd feddygon teulu eu bod wedi clywed y negeseuon am y gofynion enfawr a'r pwysau ar les staff, a'u bod yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r materion hyn.
Ychwanegodd Mr Rowlands:
Er fy mod i'n gwerthfawrogi sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ei atgoffa bod Aelodau o’r Senedd Llafur wedi gwrthod ein galwadau yn ddiweddar i wella mynediad at feddygon teulu drwy fabwysiadu galwadau ymgyrch allweddol BMA Cymru Wales a sicrhau bod pob ceiniog sy'n deillio o wariant iechyd Llywodraeth y DU ar gael ar gyfer ein GIG yng Nghymru.
Mae'n amlwg bod llawer mwy i'w wneud i ddiogelu dyfodol ein meddygon teulu. Mae eu rôl yn parhau i dyfu wrth i fwy a mwy o bobl gael eu hannog i ddefnyddio eu gwasanaethau yn hytrach na mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys. Fodd bynnag, mae angen digon o feddygon teulu i ymdopi â'r galw hwn.