Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, slams the Welsh Government as NHS waiting lists reach an all-time high.
Mr Rowlands, Shadow Health Minister was commenting after it was revealed that the number of people waiting for treatment in Wales continues to grow and is now over 800,000.
As a harsh critic of the Welsh Labour Government’s handling of the nation’s health service he said:
NHS waiting lists have hit an all-time high after seven record breaking months of consecutive increases which quite frankly is not good enough.
The additional cash that Baroness Morgan is pleading for will be too little too late and is a testament to Labour’s failure to prioritise the Welsh NHS. Crucially, any cash won’t be coupled with the vital reforms or long-term thinking we need to bear down on these excessive waits.
We know that, as always, sadly, it's patients and hardworking staff who are left at the sharp end; they're the ones languishing in pain on waiting lists or working under serious pressure without the full support that they need.
My inbox is regularly full of complaints from my constituents in North Wales who have had long waits for treatment in A&E departments or are waiting over two years just to see a consultant. It is heartbreaking.
What I find very sad is that unfortunately we seem to have got used to this being the way it is; we have long waiting lists and we have a health service that isn't always there when we need it.
It simply is not acceptable, and after 25 years of a Labour Government, it is not how the health service has to be or should be here in Wales.
Sam Rowlands AS yn poeni am ddyfodol y GIG yng Nghymru o dan Lywodraeth Lafur Cymru
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn beirniadu Llywodraeth Cymru’n llym wrth i restrau aros y GIG gyrraedd eu nifer uchaf erioed.
Roedd Mr Rowlands, Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid yn gwneud sylwadau wedi iddi gael ei datgelu bod nifer y bobl sy'n aros am driniaeth yng Nghymru yn parhau i dyfu ac mae dros 800,000 erbyn hyn.
Fel beirniad llym o'r modd y mae Llywodraeth Lafur Cymru’n ymdrin â gwasanaeth iechyd y genedl dywedodd:
Mae rhestrau aros y GIG wedi cyrraedd eu nifer uchaf erioed ar ôl saith mis digynsail o gynnydd yn olynol sydd ddim yn ddigon da.
Dyw’r arian ychwanegol y mae'r Farwnes Morgan yn gofyn yn daer amdano ddim yn ddigon a bydd yn rhy hwyr ac mae'n tystio i fethiant Llafur i flaenoriaethu GIG Cymru. Yn hollbwysig, ni fydd unrhyw arian yn cael ei gyplysu â'r diwygiadau hanfodol neu'r meddwl hirdymor sydd ei angen i gael gwared ar y rhestrau aros gormodol hyn.
Rydyn ni'n gwybod, fel erioed, yn anffodus, mai cleifion a staff gweithgar sy'n cael eu cosbi; nhw yw'r rhai sy'n gwingo mewn poen ar restrau aros neu'n gweithio dan bwysau difrifol heb y gefnogaeth lawn sydd ei hangen arnyn nhw.
Mae fy mewnflwch yn llawn cwynion yn gyson gan fy etholwyr yn y Gogledd sydd wedi bod yn disgwyl yn hir am driniaeth mewn adrannau damweiniau ac achosion brys neu sy'n aros dros ddwy flynedd dim ond i weld ymgynghorydd. Mae'n dorcalonnus.
Yr hyn sy'n fy ngwneud i’n drist iawn yw ein bod yn ymddangos fel ein bod wedi dod i dderbyn mai fel hyn y mae hi yn anffodus; mae gennym restrau aros hir ac mae gennym wasanaeth iechyd nad yw yno bob amser pan fydd ei angen arnom ni.
Yn syml, dyw hyn ddim yn dderbyniol, ac ar ôl 25 mlynedd o Lywodraeth Lafur, nid fel hyn y dylai’r gwasanaeth iechyd fod yma yng Nghymru.