Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, says he fears the Welsh Government so called listening campaign will lead to hardly any roads being reverted back to 30mph.
Mr Rowlands, a long time critic of the introduction of the 20mph default speed limit says new guidance for councils from the Transport Minister, Ken Skates, will do very little to satisfy angry and frustrated motorists.
He said:
Everybody knows how I feel about this nonsensical and crazy law making many of our roads 20mph when almost all of them quite clearly could remain at 30.
Almost half a million people in Wales signed a petition against this implementation, however, this was totally ignored by Welsh Government and they pressed ahead. Not considering the fall out for the public, services, businesses and the economy.
Then the Transport Minister said he was prepared to listen to the public and launched a campaign asking people what they wanted and urging them to tell their local councils. He has issued new guidance which is a step in the right direction except over 470,000 people had already said they did not want a default 20mph on their roads. What more proof did he need
So now an extra £5m is being made available for councils to make speed limit changes and they will have to bid for the funding, as if our struggling local authorities have not got enough to do.
The whole exercise has been a complete and utter shambles from the beginning and the money spent on this ill-advised and quite frankly bonkers idea, should have been spent on our NHS, education and local government services.
I recently met with a protest group in Abergele, who are urging local people and businesses to carry on campaigning against this ridiculous legislation and I fully support them.
I know the whole situation is dragging on but I will continue to hold the Welsh Government to account on this and fight for this law to be scrapped.
Sam Rowlands AS yn ofni bod terfyn cyflymder dadleuol ac amhoblogaidd Llafur o 20mya yma i aros
Dywedodd Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, ei fod yn ofni y bydd ymgyrch wrando honedig Llywodraeth Cymru yn arwain at fawr ddim ffyrdd yn cael eu dychwelyd i fod yn rhai 30mya.
Mae Mr Rowlands, sydd wedi bod yn hallt ei feirniadaeth ers tro byd am gyflwyno'r terfyn cyflymder cyffredinol o 20mya yn dweud na fydd canllawiau newydd i gynghorau gan y Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates, yn gwneud fawr ddim i fodloni modurwyr blin a rhwystredig.
Meddai:
Mae pawb yn gwybod sut rwy'n teimlo am y gyfraith hurt a gwallgo hon sy'n gwneud llawer o'n ffyrdd yn rhai 20mya pan allai bron pob un ohonyn nhw aros yn rhai 30mya.
Mae bron i hanner miliwn o bobl yng Nghymru wedi llofnodi’r ddeiseb yn erbyn y gweithredu hwn, fodd bynnag, cafodd hyn ei anwybyddu'n llwyr gan Lywodraeth Cymru ac ymlaen â nhw efo’r polisi, heb ystyried yr effeithiau ar y cyhoedd, ar wasanaethau, busnesau ac ar yr economi.
Yna dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth ei fod yn barod i wrando ar y cyhoedd a lansio ymgyrch yn gofyn i bobl beth roedden nhw ei eisiau, gan eu hannog i ddweud wrth eu cynghorau lleol. Mae wedi cyhoeddi canllawiau newydd sy'n gam i'r cyfeiriad cywir ond mae dros 470,000 o bobl eisoes wedi dweud nad oedden nhw eisiau 20mya cyffredinol ar eu ffyrdd. Faint mwy o dystiolaeth sydd ei hangen arno?
Felly nawr mae £5m ychwanegol yn cael ei ddarparu i gynghorau wneud newidiadau i derfynau cyflymder a bydd yn rhaid iddyn nhw wneud cais am y cyllid, fel pe na bai gan ein hawdurdodau lleol sydd dan bwysau ddigon i'w wneud yn barod.
Yn ddiweddar, mi wnes i gwrdd â grŵp protest yn Abergele, sy'n annog pobl leol a busnesau i barhau i ymgyrchu yn erbyn y ddeddfwriaeth hurt hon ac rwy'n eu cefnogi i’r carn.
Rwy'n gwybod bod yr holl sefyllfa'n llusgo ymlaen ond byddaf yn parhau i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ynglŷn â hyn ac yn brwydro dros ddiddymu’r gyfraith hon.