Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, says comments from the British Medical Council Cymru should act as a ‘wake up call’ to the Welsh Government.
Mr Rowlands, Shadow Health Minister was commenting after the British Medical Association Cymru deputy chair of the Welsh Council issued a stark warning about the ’truly grim’ predicament facing GPs in Wales after years of severe cuts to funding.
Speaking at the BMA’s annual representatives meeting in Belfast, Dr Phil White, who is also a GP in North Wales, accused the Welsh Government of burying their heads in the sand about the crisis facing GPs and the potential impact this will have on an already severely stretched NHS in Wales.
Mr Rowlands, a harsh critic of the way in which the Welsh Labour Government runs the NHS in Wales has repeatedly called for more to be done to encourage and retain GPs in Wales.
He said:
Recently I have raised several issues in Welsh Parliament about the fall in the number of GP surgeries in my own constituency in North Wales and expressed my real concern over the handling of the crisis by the Welsh Labour Government.
It was extremely worrying to hear the comments from Dr White and really should act as ‘a wake up call’ to the Welsh Labour Government.
Two weeks ago Labour Senedd Members rejected the Welsh Conservative calls to improve GP access by adopting BMA Cymru Wales’ key campaign to ensure that every penny arising from the UK Government’s health spending is made available for our Welsh NHS.
It is a scandal that all monies received from the UK Government for the NHS is not passed on to the service in Wales.
Dr White said:
As a union we are stronger than ever, and we will do what it takes to fight for the service we all believe in. Despite this strength and progress made the predicament facing general practitioners in Wales is truly grim. The service hangs on a precipice, the funding has been slashed and Welsh Government continue to bury their heads in the sand.
Continuing to ignore the vital role that General Practice plays in the national health service is a grave mistake. My message to Welsh Government is clear. Restore the proportion of the NHS budget which has been cut from General Practice or else it will collapse. If one part of the NHS crumbles, the rest will follow.
Over the last ten years GPs have been expected to look after 33% more patients while the number of full-time GPs has decreased by 24%, with a fifth of all practices (nearly 100) closing their doors. Practices are finding ways to stem rising costs – with many reducing existing staff hours or stopping recruitment entirely which all adversely impacts on workload. This is a crisis.
It is truly shameful, that GP surgeries are expected to run at a deficit, but health boards are simply bailed out by Welsh Government when they overspend” he added.
Three years ago, we publicly called for significant investment in our health service as well as a radical shake-up to create a seamless service. The NHS, social care and community services must work in partnership to effectively meet the needs of patients. Today, I’m restating those calls – the public is behind us - but are the politicians listening?
Sam Rowlands AS yn ategu’r pryderon am ddyfodol ymarfer cyffredinol yng Nghymru
Dywed Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, y dylai sylwadau gan Gyngor Meddygol Prydain fod yn gic a ddylai ddeffro Llywodraeth Cymru.
Gwnaeth Mr Rowlands, Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid y sylw ar ôl i ddirprwy gadeirydd Cyngor Cymru Cymdeithas Feddygol Prydain (Cymru) gyhoeddi rhybudd am yr anawsterau 'gwirioneddol ddifrifol' sy'n wynebu meddygon teulu yng Nghymru wedi blynyddoedd o doriadau difrifol i gyllid.
Wrth siarad yng nghyfarfod cynrychiolwyr blynyddol y Gymdeithas ym Melfast, cyhuddodd Dr Phil White, sydd hefyd yn feddyg teulu yn y Gogledd Cymru, Lywodraeth Cymru o gladdu eu pennau yn y tywod am yr argyfwng sy'n wynebu meddygon teulu a'r effaith bosibl y bydd hyn yn ei chael ar GIG sydd eisoes dan bwysau difrifol yng Nghymru.
Mae Mr Rowlands, beirniad llym o'r ffordd y mae Llywodraeth Lafur Cymru'n rhedeg y GIG yng Nghymru wedi galw dro ar ôl tro am wneud mwy i annog a chadw meddygon teulu yng Nghymru.
Meddai:
Yn ddiweddar rwyf wedi codi sawl mater yn y Senedd ynghylch y gostyngiad yn nifer y meddygfeydd yn fy etholaeth fy hun yn y Gogledd ac wedi mynegi fy mhryder gwirioneddol dros y ffordd y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn ymdrin â'r argyfwng.
Roedd clywed sylwadau Dr White yn peri pryder mawr a does dim dwywaith y dylai fod yn gic i ddeffro Llywodraeth Lafur Cymru.
Bythefnos yn ôl fe wrthododd Aelodau Llafur y Senedd alwadau gan y Ceidwadwyr Cymreig i wella mynediad at feddygon teulu drwy fabwysiadu ymgyrch allweddol Cymdeithas Feddygol Prydain (Cymru) i sicrhau bod pob ceiniog sy'n deillio o wariant iechyd Llywodraeth y DU ar gael i'n GIG yng Nghymru.
Mae'n warthus nad yw pob ceiniog a dderbynnir gan Lywodraeth y DU ar gyfer y GIG yn cael ei throsglwyddo i'r gwasanaeth yng Nghymru.
Meddai Dr White:
Fel undeb rydyn ni’n gryfach nag erioed, a byddwn yn gwneud yr hyn sydd ei angen i frwydro dros y gwasanaeth rydyn ni i gyd yn credu ynddo. Er gwaethaf y cryfder a'r cynnydd a wnaed mae'r trafferthion sy'n wynebu meddygon teulu yng Nghymru yn wirioneddol ddifrifol. Mae'r gwasanaeth ar ymyl y dibyn, mae'r cyllid wedi’i dorri a Llywodraeth Cymru’n parhau i gladdu eu pennau yn y tywod.
Mae parhau i anwybyddu rôl hanfodol Ymarfer Cyffredinol yn y gwasanaeth iechyd gwladol yn gamgymeriad difrifol. Mae fy neges i Lywodraeth Cymru yn glir. Rhaid adfer y gyfran o gyllideb y GIG sydd wedi'i thorri o Ymarfer Cyffredinol neu fel arall bydd yn mynd i’r wal. Os bydd un rhan o’r GIG yn methu, bydd y gweddill yn dilyn.
Dros y deng mlynedd diwethaf bu disgwyl i feddygon teulu ofalu am 33% yn fwy o gleifion tra bod nifer y meddygon teulu llawn amser wedi gostwng 24%, gydag un o bob pump o'r holl feddygfeydd (bron i 100) yn cau eu drysau. Mae meddygfeydd yn dod o hyd i ffyrdd o atal costau cynyddol – gyda llawer yn lleihau oriau staff presennol neu’n stopio recriwtio yn gyfan gwbl sydd i gyd yn cael effaith andwyol ar lwyth gwaith. Mae’n argyfwng.
Mae'n wirioneddol gywilyddus bod disgwyl i feddygfeydd redeg ar golled, ond mae byrddau iechyd yn cael arian gan Lywodraeth Cymru pan maen nhw'n gorwario”, ychwanegodd.
Dair blynedd yn ôl, gwnaethom alwad gyhoeddus am fuddsoddiad sylweddol yn ein gwasanaeth iechyd yn ogystal ag ailwampio sylweddol i greu gwasanaeth di-dor. Rhaid i'r GIG, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol weithio mewn partneriaeth i ddiwallu anghenion cleifion yn effeithiol. Heddiw, rwy'n ailddatgan y galwadau hynny – mae'r cyhoedd gyda ni - ond yw'r gwleidyddion yn gwrando?