Sam Rowlands MS for North Wales has commended the Owen family from Garthmyn Isaf, near Llanrwst, who have created a £2 million timber processing operation.
Mr Rowlands MS said he was delighted to see the success of Wood Energy Wales which was established as a farm diversification project.
He said:
I welcomed the opportunity to visit Huw Owen at his farm in Llanddoged and see at first-hand how he has managed to diversify from farming and create another business.
These days more than ever farmers are being encouraged to look at different ways to subsidise their farm income and Wood Energy Wales is an excellent example. They buy their timber locally from sustainable sources, use local contractors and replant the trees.
The farm diversification project was started by Huw and Sian Owen who created the company at Garthmyn Isaf, near Llanrwst. It has now grown into a significant family business in its own right.
The idea came when they were exploring diversification opportunities and realised that 70% of the land visible from the former sheep farm is forestry so they decided to diversify into timber processing.
Congratulations must go to Huw and his family for coming up with a farm diversification idea which is sustainable and has been a great success. I wish them well for the future.
Wood Energy Wales produces high quality wood chip for biomass boilers and combined heat and power plants. The trees are harvested in North Wales, chipped on site and then transported to customers all over the UK.
As well as harvesting trees, Wood Energy Wales are engaged in a number of tree planting and woodland maintenance projects across North Wales. To date Wood Energy Wales have planted over 100,000 trees.
Sam Rowlands AS yn llongyfarch teulu o Lanrwst am ei lwyddiant ffermio
Mae Sam Rowlands, AS ar gyfer Gogledd Cymru, wedi canmol Huw a Siân Owen o Garthmyn Isaf, ger Llanrwst, am sefydlu cwmni prosesu pren gwerth £2 filiwn.
Dywedodd Mr Rowlands AS ei fod wrth ei fodd yn gweld llwyddiant Ynni Coed Cymru a sefydlwyd fel prosiect arallgyfeirio ar y fferm.
Meddai:
Roeddwn wrth fy modd yn cael cyfle i ymweld â Huw Owen ar ei fferm yn Llanddoged a gweld sut mae wedi llwyddo i arallgyfeirio a chreu busnes arall.
Yn fwy nag erioed o'r blaen, mae ffermwyr yn cael eu hannog i chwilio am ddulliau gwahanol o ategu incwm o’r fferm, ac mae Ynni Coed Cymru yn enghraifft wych. Mae'r cwmni yn prynu ei bren yn lleol o ffynonellau cynaliadwy, yn defnyddio contractwyr lleol ac yn ailblannu'r coed.
Sefydlwyd y prosiect arallgyfeirio gan Huw a Siân Owen a greodd y cwmni yn Garthmyn Isaf, ger Llanrwst. Erbyn hyn, mae wedi tyfu'n fusnes teuluol sylweddol ynddo ei hun.
Fe gawson nhw'r syniad wrth archwilio cyfleoedd arallgyfeirio a sylweddoli bod 70% o'r tir sydd i'w weld o'r hen fferm ddefaid yn dir coedwigaeth a bod modd arallgyfeirio i brosesu pren.
Llongyfarchiadau i Huw a'i deulu am ddatblygu syniad arallgyfeirio cynaliadwy sydd wedi bod yn llwyddiant mawr. Dymunaf yn dda iddyn nhw ar gyfer y dyfodol.
Mae Ynni Coed Cymru yn cynhyrchu sglodion pren o ansawdd uchel ar gyfer boeleri biomas a gweithfeydd gwres a phŵer cyfun. Mae'r coed yn cael eu cynaeafu yng Ngogledd Cymru, eu troi'n sglodion pren ar y safle a'u cludo i gwsmeriaid ledled y DU.
Yn ogystal â chynaeafu coed, mae Ynni Coed Cymru yn cymryd rhan mewn nifer o brosiectau plannu coed a chynnal a chadw coetiroedd ledled Gogledd Cymru. Hyd yma mae Ynni Coed Cymru wedi plannu dros 100,000 o goed.