Sam Rowlands MS for North Wales has praised a Rhuallt manufacturer of luxury touring caravans.
He said:
I was recently delighted to have the opportunity to look around the multi award winning, Fifth Wheel Company in Rhuallt.
The company manufactures Recreational Vehicles, known as RVs and has had great success since it first began in 2002 by importing Fifth Wheel RVs from America.
They then they decided to produce similar but higher quality vehicles here in North Wales, and the business has continued to grow.
Fifth Wheel proudly leads the way in British design and manufacturing of luxury tourers with most of the components made on site, from the insulated panels to the wooden furniture inside the vehicles.
The insulation is made from recycled plastic bottles which people throw away in their household waste so not only is it a very successful business but they are also helping the environment.
Fifth Wheel’s journey started in 2002 when the owners set out to bring sheer comfort, luxury and flexibility to the outdoors. Since they began, the company has been hailed as the biggest thing to hit the UK caravan market in 20 years.
They have been awarded numerous accolades over the years including the Caravan Club Design Award five years in a row and achieved a verdict of 10 out of 10 by the Caravan Club Magazine.
Sam Rowlands AS yn llongyfarch cwmni o Sir Ddinbych sydd wedi ennill sawl gwobr am ei lwyddiant parhaus
Mae Sam Rowlands AS Gogledd Cymru wedi canmol gweithgynhyrchydd carafanau teithio moethus o Ruallt.
Meddai:
Roeddwn i ar ben fy nigon yn ddiweddar o gael y cyfle i gael golwg o gwmpas cwmni Fifth Wheel yn Rhuallt sydd wedi ennill gwobrau di-ri.
Mae’r cwmni yn gweithgynhyrchu Cerbydau Hamdden, a elwir yn RVs ac maen nhw wedi cael llwyddiant ysgubol ers dechrau arni yn 2002 drwy fewnforio Cerbydau Hamdden Fifth Wheel o’r America.
Yna, aethon nhw ati i gynhyrchu cerbydau tebyg ond o ansawdd uwch yma yng Ngogledd Cymru, ac mae’r cwmni wedi parhau i fynd o nerth i nerth.
Mae Fifth Wheel yn falch o arwain y ffordd gyda’r gwaith o gynllunio a gweithgynhyrchu carafanau teithio moethus Prydeinig, gyda’r rhan fwyaf o’r cydrannau’n cael eu gwneud ar y safle, o’r paneli inswleiddio i’r dodrefn pren y tu mewn.
Mae’r deunydd inswleiddio wedi’i wneud o boteli plastig wedi’u hailgylchu y mae pobl yn eu taflu i ffwrdd gyda’u gwastraff cartref felly mae’r busnes nid yn unig yn un llwyddiannus dros ben, ond mae’n helpu’r amgylchedd hefyd.
Dechreuodd taith Fifth Wheel yn 2002 pan ddechreuodd y perchnogion ar eu cenhadaeth i gyflwyno cyfforddusrwydd, moethusrwydd a hyblygrwydd i’r awyr agored. Ers dechrau ar y daith, disgrifiwyd y cwmni fel y peth gorau sydd wedi digwydd ym marchnad carafanau’r DU ers 20 mlynedd.
Maen nhw wedi derbyn sawl gwobr dros y blynyddoedd, gan gynnwys Gwobr Dylunio y Caravan Club am bum mlynedd yn olynol ac maen nhw wedi sgôr o 10 allan o 10 gan gylchgrawn y Caravan Club.