Sam Rowlands MS for North Wales is urging Welsh Government to take immediate action to tackle the lack of NHS dentists in his region.
Sam was commenting after Betsi Cadwaladr University Health Board announced that a surgery on Anglesey was closing its doors to NHS patients from the middle of April.
I am really disappointed to hear that yet another dental practice on Anglesey will no longer be offering NHS services. This follows news that a surgery in Llanfairpwllgwyngyll is pulling out of providing this service at the end of March and late last year the island lost a surgery in Llangefni, although this was closed down due to standards and patient safety issues.
That is three dental practices within the last six months. It is really not acceptable or good enough and Welsh Government need to get involved. I feel sorry for patients on the island who are trying to access NHS services .
I am aware that a new dental practice has opened its doors in Bangor, which is part of Betsi Cadwaladr University Health Board’s ambitious plans to help tackle the shortage of dentists and eventually the building will also provide a dental academy which of course is a step in the right direction.
However, I am still receiving emails from people across North Wales trying to access NHS treatment and I have repeatedly called on the Welsh Government to do more.
The lack of NHS dental provision in North Wales is a major problem caused by and years of chronic underfunding and the lack of planning. The people of North Wales deserve better.
This week the BCU Health Board said they had been advised that the Deintyddfa Cybi Dental Practice in Holyhead, Anglesey, of their intention to terminate their NHS general dental service contract after April 18 2023.
Only last month the contractor at Marquess Dental Practice in Holyhead Road, Llanfairpwllgwyngyll said they would no longer provide NHS dental services after March 31.
In the medium term BCU Health Board plan to recommission replacement dental services in the area as early as possible.
Timescales required to undertake a service procurement exercise to re-establish services will mean, however, a period of time during which access to NHS dental services will, unfortunately, be limited.
Consequently, in the shorter term, the health board are looking to increasing the availability of access to urgent and priority dental care for patients who find themselves without a regular dentist.
Sam Rowlands AS yn beirniadu Llywodraeth Cymru wedi i bractis deintyddol arall roi’r gorau i ddarparu gwasanaeth GIG ar Ynys Môn
Mae Sam Rowlands AS dros y Gogledd yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i weithredu’n ddi-oed i fynd i'r afael â diffyg deintyddion GIG yn ei ranbarth.
Roedd Sam yn gwneud sylwadau wedi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gyhoeddi bod practis deintyddol ar Ynys Môn yn cau ei drysau i gleifion y GIG ganol mis Ebrill.
Rwy'n siomedig iawn o glywed na fydd practis deintyddol arall ar Ynys Môn yn cynnig gwasanaethau GIG mwyach. Daw hyn yn dilyn y newyddion bod practis deintyddol yn Llanfairpwllgwyngyll yn rhoi’r gorau i ddarparu'r gwasanaeth yma ddiwedd Mawrth, a ddiwedd y llynedd collodd yr ynys bractis deintyddol yn Llangefni, er iddo gael ei gau oherwydd safonau a phroblemau o ran diogelwch cleifion.
Dyna dri phractis deintyddol o fewn y chwe mis diwethaf. Dyw hyn ddim yn dderbyniol nac yn ddigon da ac mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu. Rwy'n teimlo trueni dros gleifion ar yr ynys sy'n ceisio cael gafael ar wasanaethau'r GIG.
Rwy'n ymwybodol fod practis deintyddol newydd wedi agor ei ddrysau ym Mangor, sy'n rhan o gynlluniau uchelgeisiol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i helpu i fynd i'r afael â phrinder deintyddion, ac ymhen amser bydd yr adeilad yn gartref i academi ddeintyddol sydd yn gam i'r cyfeiriad cywir wrth reswm.
Fodd bynnag, rwy'n dal i dderbyn e-byst gan bobl ledled y Gogledd sy’n ceisio cael triniaeth gan y GIG ac rwyf wedi galw droeon ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy.
Mae diffyg darpariaeth ddeintyddol y GIG yn y Gogledd yn broblem fawr sydd wedi’i hachosi gan flynyddoedd o danariannu parhaus a diffyg cynllunio. Mae pobl y Gogledd yn haeddu gwell.
Yr wythnos hon dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu bod wedi cael gwybod bod Deintyddfa Cybi yng Nghaergybi, Ynys Môn, am roi’r gorau i’w contract gwasanaeth deintyddol cyffredinol gyda’r GIG ar 18 Ebrill 2023.
Dim ond fis diwethaf dywedodd contractwr yn Neintyddfa Marquess yn Ffordd Caergybi, Llanfairpwll na fydden nhw’n darparu gwasanaethau deintyddol y GIG ar ôl 31 Mawrth.
Yn y tymor canolig mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn bwriadu ail-gomisiynu gwasanaethau deintyddol newydd yn yr ardal cyn gynted â phosib.
Ond mae’r amser sydd ei angen i gynnal ymarfer caffael gwasanaethau i ailsefydlu gwasanaethau yn golygu y bydd cyfnod pan fydd gwasanaethau deintyddol y GIG yn gyfyngedig yn anffodus.
O ganlyniad, yn y tymor byrrach, mae'r bwrdd iechyd yn gobeithio cynyddu gofal deintyddol brys a blaenoriaeth i gleifion sydd heb ddeintydd rheolaidd.