Sam Rowlands MS for North Wales has congratulated Denbighshire County Council for being shortlisted for a coveted national construction industry award.
Christ the Word Catholic School in Rhyl, has been shortlisted in the Social Infrastructure Project of the Year category at the British Construction Industry Awards, BCIA, 2021.
Mr Rowlands said:
It is great to see the school build project in North Wales being recognised in this way and I am delighted they are in the running for such an accolade. Congratulations should go to everyone for all their hard work and dedication.
DCC worked with the Diocese of Wrexham and Kier Construction to deliver this amazing site which has created a fantastic learning environment and includes a chapel, a drama studio and specialist classrooms for design technology and music.
It is a wonderful achievement and I am pleased to see the council on the shortlist and wish them well for the final in October.
The BCIA look to recognise and reward excellence in project delivery and the delivery of positive outcomes for society.
The building was funded by Denbighshire County Council and the Welsh Government through its 21st Century Schools Programme and delivered a brand new educational facility for pupils aged 3-16 in Rhyl.
The school, part of the Diocese of Wrexham, was officially opened in 2019, with final external work completed the following summer. It caters for 420 full time pupils aged 3-11 and 500 pupils aged 11-16.
Amanda Preston, Headteacher, said:
We are delighted that our beautiful school has been shortlisted for this national construction industry award. Our fantastic facilities provide outstanding teaching and learning opportunities for all of our children.
Sam Rowlands AS yn canmol cyngor am gyrraedd rhestr fer gwobr genedlaethol fawreddog
Mae Sam Rowlands, AS ar gyfer Gogledd Cymru, wedi llongyfarch Cyngor Sir Ddinbych am gyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol bwysig yn y diwydiant adeiladu.
Mae Ysgol Gatholig Crist y Gair yn y Rhyl wedi cyrraedd rhestr fer y categori Prosiect Seilwaith Cymdeithasol y Flwyddyn yng Ngwobrau’r Diwydiant Adeiladu Prydeinig (BCIA) 2021.
Meddai Mr Rowlands:
Mae’n dda gweld y prosiect i adeiladu’r ysgol yma yn y Gogledd yn cael cydnabyddiaeth fel hyn, a dwi wrth fy modd bod y prosiect wedi cyrraedd y rhestr fer. Mae’n rhaid llongyfarch pawb am eu holl waith caled ac ymroddiad.
Fe wnaeth Cyngor Sir Ddinbych weithio gydag Esgobaeth Wrecsam a chwmni Kier Construction i ddarparu’r safle rhagorol hwn sydd wedi creu amgylchedd dysgu o’r radd flaenaf. Mae’n cynnwys capel, stiwdio drama ac ystafelloedd dosbarth arbenigol ar gyfer dylunio a thechnoleg a cherddoriaeth.
Mae’n gamp heb ei hail a dwi wrth fy modd yn gweld y cyngor ar y rhestr fer ac yn dymuno’n dda iddo ar gyfer y rownd derfynol ym mis Hydref.
Mae’r BCIA yn cydnabod ac yn gwobrwyo rhagoriaeth ym meysydd cyflawni prosiectau a sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer cymdeithas.
Ariannwyd yr adeilad gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru trwy ei Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, gan greu cyfleuster addysgol newydd sbon ar gyfer disgyblion rhwng 3 ac 16 oed yn y Rhyl.
Mae’r ysgol yn rhan o Esgobaeth Wrecsam, ac fe’i hagorwyd yn swyddogol yn 2019, cyn i’r gwaith allanol terfynol gael ei gwblhau yr haf canlynol. Mae’n darparu ar gyfer 420 o ddisgyblion llawn amser rhwng 3 ac 11 oed a 500 o ddisgyblion rhwng 11 ac 16 oed.
Meddai’r Pennaeth, Amanda Preston:
Rydym wrth ein bodd bod ein hysgol ragorol wedi cyrraedd rhestr fer un o wobrau cenedlaethol y diwydiant adeiladu. Mae gennym gyfleusterau o’r radd flaenaf sy’n darparu cyfleoedd addysgu a dysgu ardderchog i’n holl blant.