Sam Rowlands MS for North Wales has seen at first-hand how farm diversification is working in his Region.
He said:
I welcomed the opportunity to visit Llyr Jones at his farm in Llanfihangel GM and see how he has managed to focus on farm diversification to make his operation more environmentally friendly and more economically resilient.
Llyr has truly embraced ideas for diversification. He has a miniature hydro-power scheme which generates enough electricity to power the farm and have some electricity leftover to sell back into the National Grid.
He also operates rotational cell grazing which allows grass to regrow quicker and with less worms in the soil leads to healthier cattle.
I was impressed with his farming operation which includes Blodyn Aur, a range of cooking oil and salad dressing made from rapeseed, a recognised Welsh brand which sells in supermarkets.
These days more than ever farmers are being encouraged to look at different ways to subsidise their farm income and congratulations must go to Llyr for implementing so many farm diversification ideas.
Mae Sam Rowlands AS wedi canmol ffermwr lleol am ei syniadau arloesol
Mae Sam Rowlands AS dros Ogledd Cymru wedi cael profiad uniongyrchol o weld sut mae fferm yn ei ranbarth yn arallgyfeirio.
Meddai:
Roeddwn i’n falch iawn o gael cyfle i ymweld â Llyr Jones yn ei fferm yn Llanfihangel Glyn Myfyr a gweld sut mae wedi llwyddo i ganolbwyntio ar arallgyfeirio’r fferm er mwyn gwneud ei fusnes yn fwy ecogyfeillgar ac yn fwy cadarn yn economaidd.
Mae Llyr wedi mynd amdani go iawn gyda syniadau arallgyfeirio. Mae ganddo fenter ynni dŵr fach sy’n cynhyrchu digon o drydan i bweru’r fferm a gwerthu ychydig o drydan sy’n weddill yn ôl i’r Grid Cenedlaethol.
Mae e hefyd yn gweithredu system o bori celloedd mewn cylchdro sy’n caniatáu i wair dyfu’n ôl yn gynt ac mae llai o lyngyr yn y pridd sy’n golygu bod y gwartheg yn iachach.
Fe wnaeth gweithrediad y fferm argraff arnaf. Mae ei waith yn cynnwys Blodyn Aur, cyfres o gynhyrchion olew coginio a dresin salad wedi’u gwneud o had rêp, sy’n enw Cymreig adnabyddus sydd ar werth mewn archfarchnadoedd.
Y dyddiau hyn, mae ffermwyr yn cael eu hannog fwy nag erioed o’r blaen i edrych am wahanol ffyrdd o ychwanegu at incwm y fferm, ac mae’n rhaid i mi longyfarch Llyr am roi cymaint o syniadau arallgyfeirio ar waith ar ei fferm.