Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, says Welsh Government need to put the country before politics to improve relations with the UK Government.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, was responding to comments made by the Labour Party.
Mr Rowlands said:
I totally disagree with this claim. The UK Government is always ready to listen but Welsh Government consistently refuse to work with them and call for more devolved powers.
They would much rather concentrate on vanity projects, introducing disastrous polices like the 20mph speed limit or stopping investment in roads and transport which certainly does nothing to help the economy of Wales.
This week the Prime Minister announced £1 billion to spend on electrifying the North Wales Coast Line, meaning faster and more regular rail services. And only last week it was announced that Wrexham was to receive £20m over the next 10 years from the UK Government to help invest in people’s priorities for the city and would be working with Welsh Government to make sure the money was used where it was needed.
The UK Government is quite rightly concerned that Welsh Government do not always spend the money they are given on what they should. For example for every £1.00 per person spent on public services in England, Wales receives £1.20 per person, but then only use £1.05. And then they complain that they do not have enough money.
I believe it is important, for the people of Wales, that both governments work together to navigate these challenging times. Mark Drakeford and his Labour Party Ministers need to recognise and accept that this is the best way forward for our country.
Sam Rowlands AS yn wfftio honiadau fod Llywodraeth y DU yn llesteirio rhagolygon economaidd Cymru
Dywed Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, fod angen i Lywodraeth Cymru roi’r wlad o flaen gwleidyddiaeth er mwyn gwella’r berthynas gyda Llywodraeth y DU.
Roedd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, yn ymateb i sylwadau a wnaed gan y Blaid Lafur.
Dywedodd Mr Rowlands:
Rwy’n anghytuno’n llwyr â’r honiad hwn. Mae Llywodraeth y DU bob amser yn barod i wrando ond mae Llywodraeth Cymru’n gwrthod gweithio gyda nhw yn gyson ac yn galw am ddatganoli mwy o bwerau.
Byddai’n well ganddyn nhw ganolbwyntio ar brosiectau porthi balchder, gan gyflwyno polisïau trychinebus fel y terfyn cyflymder 20mya neu atal buddsoddiad mewn ffyrdd a thrafnidiaeth sy’n sicr yn gwneud dim i helpu economi Cymru.
Yr wythnos hon, cyhoeddodd y Prif Weinidog £1 biliwn i’w wario ar drydaneiddio Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru, gan olygu gwasanaethau rheilffordd cyflymach a mwy rheolaidd. Mor ddiweddar â’r wythnos ddiwethaf, cyhoeddwyd y byddai Wrecsam yn derbyn £20m dros y 10 mlynedd nesaf gan Lywodraeth y DU i helpu i fuddsoddi ym mlaenoriaethau pobl ar gyfer y ddinas ac y byddai’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio lle roedd ei angen.
Mae Llywodraeth y DU yn llygad ei lle yn poeni nad yw Llywodraeth Cymru bob amser yn gwario’r arian maen nhw’n ei roi ar yr hyn y dylen nhw. Er enghraifft, am bob £1.00 y pen sy’n cael ei gwario ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, mae Cymru’n derbyn £1.20 y pen, ond ddim ond yn defnyddio £1.05 y pen. Wedyn maen nhw’n cwyno nad oes ganddyn nhw ddigon o arian.
Rwy’n credu ei bod yn bwysig, i bobl Cymru, fod y ddwy lywodraeth yn gweithio gyda’i gilydd i lywio drwy’r cyfnod heriol hwn. Mae angen i Mark Drakeford a Gweinidogion y Blaid Lafur gydnabod a derbyn mai dyma’r ffordd orau ymlaen i’n gwlad.