Sam Rowlands MS for North Wales is delighted to see investment and more jobs planned for his region.
Mr Rowlands recently visited Shotton Mill, Deeside where he was shown around the site and learnt all about the future plans.
Shotton Mill, was owned by UPM and had been operating on the Deeside Industrial Estate since 1983, however, in September 2021 it was bought by a Turkish family firm, Eren.
Mr Rowlands said:
I was delighted to have the opportunity to look around Shotton Mill and hear all about its major new plans.
Earlier this year the company announced a £600m redevelopment to change the use of the former newsprint site into producing cardboard and tissue. This is the largest example of inward investment in Wales and the sixth largest in the UK.
This was great news for Deeside and I welcome this investment into manufacturing jobs in North Wales. Not only does it secure existing employment but it will also create an additional 660 jobs.
I was also pleased to see the key role the site plays in the UK’s recycling infrastructure network. Recycled paper and other recyclable materials, including glass and plastics which is collected by local councils from households all around the UK are brought to the site for reprocessing.
Shotton Mill, on the Deeside Industrial Estate, employs 190 people at the moment with an additional 210 jobs supported through the site using contractors in its Materials Recovery Facility, MRF and Eren plans to directly create an additional 660 jobs at the site.
Sam Rowlands AS yn croesawu buddsoddiad mawr mewn swyddi gweithgynhyrchu yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, AS dros Ogledd Cymru, yn falch iawn o weld buddsoddiad a mwy o swyddi'n cael eu cynllunio ar gyfer ei ranbarth.
Yn ddiweddar, fe wnaeth Mr Rowlands ymweld â Shotton Mill, Glannau Dyfrdwy lle cafodd ei dywys o amgylch y safle gan ddysgu am y cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Roedd Shotton Mill yn eiddo i UPM ac roedd wedi bod yn gweithredu ar Ystad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy ers 1983. Fodd bynnag, ym mis Medi 2021, fe'i prynwyd gan Eren, cwmni teuluol o Dwrci.
Meddai Mr Rowlands:
Roeddwn i'n falch iawn o gael y cyfle i gael taith o amgylch Shotton Mill a chlywed am y cynlluniau mawr newydd.
Yn gynharach eleni fe gyhoeddodd y cwmni ailddatblygiad gwerth £600 miliwn i newid defnydd yr hen safle argraffu papurau newydd i gynhyrchu cardbord a hancesi papur. Dyma'r enghraifft fwyaf o fewnfuddsoddiad yng Nghymru a'r chweched mwyaf yn y DU.
Mae’n newyddion gwych i Lannau Dyfrdwy ac rwy’n croesawu'r buddsoddiad hwn mewn swyddi gweithgynhyrchu yn y Gogledd. Mae nid yn unig yn sicrhau cyflogaeth bresennol ond bydd hefyd yn creu 660 o swyddi ychwanegol.
Roeddwn i'n falch hefyd o weld y rhan allweddol sydd gan y safle yn rhwydwaith seilwaith ailgylchu'r DU. Mae papur wedi'i ailgylchu a deunyddiau eraill y gellir eu hailgylchu, gan gynnwys gwydr a phlastigau sy'n cael eu casglu gan gynghorau lleol o aelwydydd ledled y DU, yn dod i'r safle i'w hailbrosesu.
Mae Shotton Mill, ar Ystad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy, yn cyflogi 190 o bobl ar hyn o bryd gyda 210 o swyddi ychwanegol yn cael eu cefnogi drwy'r safle gan ddefnyddio contractwyr yn ei Gyfleuster Adfer Deunyddiau (MRF) ac mae Eren yn bwriadu creu 660 o swyddi ychwanegol yn uniongyrchol ar y safle.