Sam Rowlands MS for North Wales is delighted to hear work is progressing to improve pavements at a popular tourist destination in his region.
Conwy County Borough Council has announced that, weather permitting, work will start on Phase 2 of the Mostyn Street repaving programme later this month. Phase 2 will focus on improving the pavements on the west side of Mostyn Street, Llandudno, between Gloddaeth Street and Lloyd Street. Work will include replacing kerbs and pavements in Mostyn Street using heritage style paving slabs up to the shop boundaries.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government said:
The poor state of the pavements have been complained about for years by locals and visitors alike and I am delighted to see the council is now continuing with this project. Llandudno, as we all know, is a major tourist and shopping destination. It is a jewel in the crown for North Wales attracting thousands of visitors every year.
It is absolutely vital for the continued prosperity of the town that improvements are made and areas like pavements are in keeping with the Victorian heritage of this area.
His sentiments were echoed by Harry Saville, Mayor of Llandudno and Councillor for the Gogarth Ward who said:
It is great to see money being spent improving Llandudno and whilst there will still be much more of Mostyn Street to do, this is a big improvement for our high street. I’m looking forward to seeing the results.
Greg Robbins, Conwy County Borough Council Cabinet Member for the Environment and Transport, and Councillor for the Mostyn Ward, has been campaigning for pavement improvements for many years. He said:
This is a significant infrastructure project for Llandudno. The new pavements are of a different design to the current ones, so will hopefully last much longer and enhance Mostyn Street.
Louise Emery, Conwy County Borough Council Deputy Leader, Councillor for the Gogarth Ward added:
I welcome the continued improvements to the pavements in the town. It is great to see major investment taking place to make the high street even more attractive to tourists and for local businesses.
There have been aspirations to carry out a large-scale repaving project for around 30 years, but nothing materialised until 2019. The repaving project is being undertaken in phases, with phase 1 completed in 2019.
The new work which starts on February 14 and is due to finish on April 8, is phase 2, between Gloddaeth Street and Lloyd Street, as well as short stretch of those two roads.
The project will only cover the parts of the pavement that are in public ownership as those which are owned by private landlords and businesses are not included.
Sam Rowlands AS yn croesawu’r newyddion am welliannau sylweddol i un o brif strydoedd siopa Gogledd Cymru
Roedd Sam Rowlands AS ar gyfer Gogledd Cymru wrth ei fodd yn clywed bod gwaith yn mynd rhagddo i wella palmentydd mewn cyrchfan boblogaidd i dwristiaid yn ei ranbarth.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyhoeddi y bydd gwaith yn dechrau ar Gam Dau'r rhaglen balmantu yn Stryd Mostyn yn ddiweddarach yn y mis, os bydd y tywydd yn caniatáu. Bydd Cam 2 yn canolbwyntio ar wella'r palmentydd ar ochr orllewinol Stryd Mostyn, Llandudno, rhwng Stryd Gloddaeth a Stryd Lloyd. Bydd y gwaith yn cynnwys gosod ymylon palmant a phalmentydd newydd yn Stryd Mostyn gan ddefnyddio slabiau palmant arddull treftadaeth hyd at derfyn y siopau.
Meddai Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid:
Mae pobl leol ac ymwelwyr wedi cwyno am gyflwr gwael y palmentydd ers blynyddoedd, ac mae'n dda gweld y cyngor yn parhau â'r prosiect hwn. Fel mae pawb yn gwybod, mae Llandudno yn gyrchfan bwysig i dwristiaid a siopwyr. Mae'n un o brif drysorau'r Gogledd ac mae'n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.
Mae'n rhaid gwella cyflwr y dref i sicrhau ei ffyniant parhaus, gan sicrhau bod nodweddion fel palmentydd yn cyd-fynd â threftadaeth Fictoraidd yr ardal hon.
Ategwyd ei sylwadau gan Harry Saville, Maer Llandudno a chynghorydd Ward Gogarth, a ddywedodd:
Mae'n dda gweld arian yn cael ei wario i wella Llandudno, ac er y bydd angen gwneud llawer mwy yn Stryd Mostyn o hyd, mae hyn yn welliant mawr i'n stryd fawr. Rwy'n edrych ymlaen at weld y canlyniadau.
Mae Greg Robbins, Aelod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth, a Chynghorydd Ward Mostyn, wedi bod yn ymgyrchu dros welliannau i'r palmentydd ers blynyddoedd lawer. Meddai:
Mae hwn yn brosiect seilwaith pwysig iawn yn Llandudno. Mae dyluniad y palmentydd newydd yn wahanol i'r palmentydd presennol, felly gobeithio y byddant yn para'n llawer hirach ac yn gwella Stryd Mostyn.
Meddai Louise Emery, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, a Chynghorydd dros Ward Gogarth:
Rwy'n croesawu'r gwelliannau parhaus i'r palmentydd yn y dref. Mae'n wych gweld buddsoddiad sylweddol yn y stryd fawr er mwyn ei gwneud hyd yn oed yn fwy deniadol i dwristiaid a busnesau lleol.
Bu dyhead i gyflwyno prosiect palmentydd ar raddfa fawr ers tua 30 mlynedd, ond ni wireddwyd y dyhead tan 2019. Mae'r prosiect yn cael ei gyflwyno fesul cam, a chwblhawyd cam 1 yn 2019.
Mae gwaith newydd ar gam 2 yn dechrau ar 14 Chwefror, a dylai'r gwaith gael ei gwblhau ar 8 Ebrill. Mae'r gwaith yn cael ei wneud rhwng Stryd Gloddaeth a Stryd Lloyd, ac ar ddarn bach o'r ddwy ffordd hyn.
Dim ond ar y rhannau hynny o’r palmant sydd mewn perchnogaeth gyhoeddus fydd y gwaith yn digwydd gan nad yw’r rhannau hynny o’r palmant sy’n eiddo i landlordiaid a busnesau preifat wedi’u cynnwys yn y prosiect.