Sam Rowlands MS for North Wales, and Shadow Minister for Local Government is delighted to see his region receiving a major cash boost to invest in local projects.
His comments come after it was announced that North Wales is to receive £10.8m from the Community Renewal Fund.
He said:
This is fantastic news for North Wales and it is very encouraging to see the UK Government continuing to work with our local councils and helping to support our communities.
The Community Renewal Fund is the first part of the UK Government’s ‘Levelling Up’ agenda which replaces EU funding and I am pleased to see 41 bids were successful in North Wales.
As chair of the Senedd’s Cross Party Group on Tourism I am particularly pleased to see Conwy County Borough Council receiving £850,093 for its Tourism Hub and enhancement of Llandudno promenade.
The town is definitely a big jewel in the crown for attracting tourists to North Wales and this will certainly help to attract even more people to the area.
It is wonderful to see this sort of investment in local projects following our departure from the EU and I am delighted to see so many diverse and innovative schemes on the list.
There is no doubt this money will support investment in these areas, create jobs and help in our recovery from the pandemic.
Sam Rowlands AS yn croesawu'r newyddion am fuddsoddiad mawr i Ogledd Cymru
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru, a'r Gweinidog Cysgodol dros Lywodraeth Leol yn falch iawn o weld ei ranbarth yn cael hwb ariannol mawr i fuddsoddi mewn prosiectau lleol.
Daw ei sylwadau wedi'r cyhoeddiad y bydd y Gogledd yn derbyn £10.8m o'r Gronfa Adfywio Cymunedol.
Meddai:
Mae hyn yn newyddion gwych i'r Gogledd ac mae'n braf gweld Llywodraeth y DU yn parhau i weithio gyda'n cynghorau lleol ac yn helpu i gefnogi ein cymunedau.
Y Gronfa Adfer Cymunedol yw rhan gyntaf agenda 'Levelling Up' neu Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU sy'n disodli cyllid yr UE ac rwy'n falch o weld 41 o geisiadau'r Gogledd yn llwyddo.
Fel cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth, rwy'n arbennig o falch o weld Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn derbyn £850,093 ar gyfer ei Hwb Twristiaeth a gwella’r prom yn Llandudno.
Heb os, mae'r dref yn drysor o ran denu ymwelwr i'r Gogledd a bydd hyn yn sicr yn helpu i ddenu mwy nag erioed i'r ardal.
Mae'n wych gweld y math hwn o fuddsoddiad mewn prosiectau lleol yn dilyn ein hymadawiad o'r UE ac rwy'n falch iawn o weld cynifer o gynlluniau amrywiol ac arloesol ar y rhestr.
Does dim amheuaeth y bydd yr arian hwn yn cefnogi buddsoddiad yn y meysydd hyn, yn creu swyddi ac yn ein helpu i adfer o'r pandemig.