Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is pleased to see the health board making progress on setting up Rapid Treatment Centres across his region.
He said:
I am delighted to hear that the North Wales health board is putting together a business case to set up centres across my region to transform planned care services.
The proposals for RTCs, which are also being considered in England, will also speed up access to care and provide improved transport services for patients which is something we badly need in my region.
I support any moves which will ultimately lead to a better NHS service for the people of North Wales and welcome this latest initiative.
In an update from BCUHB they said that they were currently carrying out detailed work to develop a robust outline business case which, when completed, will be submitted to Welsh Government for scrutiny and approval.
The business case will allow them to explore a range of options in terms of the number, scale and location of the RTCs.
The RTCs will develop new pathways to transform planned care services, improve the quality of ambulatory patient care and speed of access as well as improving service resilience and efficiency.
They will provide services for patients on an urgent cancer pathway, as well as those who may have vague symptoms but need access to appropriate diagnostics and clinical input. RTCs will also provide ambulatory services for patients requiring diagnosis and treatment as a day case.
Although the locations for these new RTCs has not yet been determined, the health board say they are committed to ensuring good engagement and communication with the public of North Wales as the plans develop.
They will be communicating with patients, parents and stakeholders to share more information about this major new development in health care.
Mae Sam Rowlands AS wedi croesawu'r newyddion am gynlluniau mawr i wella gwasanaethau gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn falch o weld y bwrdd iechyd yn gwneud cynnydd ar sefydlu Canolfannau Triniaeth Gyflym ar draws ei ranbarth.
Meddai:
Rwy'n falch iawn o glywed bod bwrdd iechyd y Gogledd yn llunio achos busnes i sefydlu canolfannau ar draws fy rhanbarth i drawsnewid gwasanaethau gofal a gynlluniwyd.
Bydd y cynigion ar gyfer Canolfannau Triniaeth Gyflym, sy'n cael eu hystyried yn Lloegr hefyd, yn cyflymu mynediad at ofal ac yn darparu gwell gwasanaethau trafnidiaeth i gleifion, sy'n rhywbeth y mae mawr ei angen arnom yn fy rhanbarth.
Rwy'n cefnogi unrhyw waith a fydd yn arwain at well gwasanaeth GIG i bobl y Gogledd ac yn croesawu'r fenter ddiweddaraf hon.
Mewn diweddariad gan BIPBC, fe ddywedon nhw eu bod yn gwneud gwaith manwl ar hyn o bryd i ddatblygu achos busnes amlinellol cadarn a fydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i graffu arno ac i'w gymeradwyo.
Bydd yr achos busnes yn caniatáu iddyn nhw archwilio ystod o opsiynau o ran nifer, maint a lleoliad y Canolfannau Triniaeth Gyflym.
Bydd y Canolfannau'n datblygu llwybrau newydd i drawsnewid gwasanaethau gofal a gynlluniwyd, gwella ansawdd gofal cleifion triniaeth ddydd a chyflymder mynediad, yn ogystal â gwella gwydnwch ac effeithlonrwydd gwasanaethau.
Byddan nhw’n darparu gwasanaethau i gleifion ar lwybr canser brys, yn ogystal â'r rhai a allai fod â symptomau annelwig ond sydd angen mynediad at ddiagnosteg briodol a mewnbwn clinigol. Bydd Canolfannau Triniaeth Gyflym hefyd yn darparu gwasanaethau triniaeth ddydd i gleifion sydd angen diagnosis a thriniaeth fel achos dydd.
Er nad yw'r lleoliadau ar gyfer y Canolfannau newydd hyn wedi'u pennu eto, mae'r bwrdd iechyd yn dweud eu bod wedi ymrwymo i ymgysylltu a chyfathrebu'n dda gyda'r cyhoedd yn y Gogledd wrth i'r cynlluniau ddatblygu.
Byddant yn cyfathrebu â chleifion, rhieni a rhanddeiliaid i rannu mwy o wybodaeth am y datblygiad mawr newydd hwn ym maes gofal iechyd.