Sam Rowlands MS for North Wales is delighted to see residents in his region receiving a speed boost to their internet.
He said:
I am really pleased to see residents and businesses in Groesffordd Marli are now connected to fibre broadband.
In a world which relies heavily on using the web, it is vital our rural communities have better connectivity so that everyone can enjoy decent broadband speeds. The kind of snail speeds which some have to endure are simply unacceptable in 2022.
I continually campaign for improvements as I know many people are being let down and held back from maximising their business opportunities. In this day and age it is vital that all parts of rural North Wales should have access to superfast broadband, which is an essential tool of modern life and business.
With support from Denbighshire County Council, the Groesffordd Marli Fibre Community Partnership, which contains 37 properties, including 13 businesses, has been provided with a Fibre To The Property Internet (FTTP) connection with speeds of up to 900mbps, via Openreach’s Fibre Partnership programme.
This installation was funded through the Welsh and UK government Gigabit Vouchers scheme at no cost to residents or businesses.
Properties in Groesffordd Marli can now order fibre-based internet up to 900mbps, an improvement over the 1mbps some of them were receiving before.
Nicola Kneale, the Council’s Joint Interim Head of Business Improvement and Modernisation, said:
Residents and businesses will now benefit from faster internet speeds which will improve their access to the internet. These speeds will allow for a wider range of services including the streaming of HD and 4k content and means more members of a household can access the internet at the same time.
Communities in the Trefnant area, 23 properties including eight businesses, and Llandegla area, eight properties including six businesses, have recently been successful in their bids for the scheme and are currently awaiting installation.
Sam Rowlands AS yn croesawu’r newyddion bod cysylltiad rhyngrwyd trigolion pentref yn Sir Ddinbych wedi gwella
Mae Sam Rowlands, AS dros Ogledd Cymru, wrth ei fodd bod cysylltiad rhyngrwyd trigolion yn ei ranbarth wedi gwella.
Meddai:
Dwi wrth fy modd bod trigolion a busnesau yn ardal Groesffordd Marli bellach â chysylltiad band eang ffeibr.
Mewn byd sy’n dibynnu’n helaeth ar ddefnyddio’r we, mae’n hollbwysig gwella cysylltedd cymunedau gwledig fel bod cyflymder band eang da ar gael i bawb. Mae rhai pobl yn gorfod ymdopi â chysylltiad araf iawn, sy’n gwbl annerbyniol yn 2022.
Rwy’n parhau i ymgyrchu dros welliannau yn gyson oherwydd dwi’n gwybod bod pobl yn methu manteisio ar gyfleoedd busnes oherwydd cysylltiad araf. Yn y byd sydd ohoni, mae’n hollbwysig bod gwasanaeth band eang cyflym iawn ar gael i bob rhan o gefn gwlad y Gogledd, gan ei fod yn adnodd hanfodol ar gyfer bywyd a busnes modern.
Diolch i gymorth Cyngor Sir Ddinbych, mae Partneriaeth Gymunedol Ffeibr Groesffordd Marli, sy’n cynnwys 37 eiddo, gan gynnwys 13 busnes, wedi derbyn cysylltiad Rhyngrwyd Ffeibr i’r Eiddo sydd â chyflymder hyd at 900mbps, trwy raglen Partneriaeth Ffeibr Openreach.
Ariannwyd y gosodiad hwn trwy gynllun Talebau Gigabeit Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac nid oedd angen i drigolion neu fusnesau gyfrannu at y gost o gwbl.
Erbyn hyn, mae eiddo yn ardal Groesffordd Marli yn gallu archebu gwasanaeth rhyngrwyd ffeibr hyd at 900mbps, sy’n well na’r gwasanaeth 1mbps a oedd ar gael i rai ohonynt o’r blaen.
Meddai Nicola Kneale, Cyd-bennaeth Dros Dro Gwella Busnes a Moderneiddio’r Cyngor:
Bydd trigolion a busnesau yn gallu elwa ar gysylltiad rhyngrwyd cyflymach, gan wella eu mynediad i’r rhyngrwyd. Bydd y cyflymder hwn yn hwyluso ystod ehangach o wasanaethau gan gynnwys ffrydio cynnwys manylder uwch a 4k, a bydd mwy o bobl mewn cartref yn gallu defnyddio’r rhyngrwyd ar yr un pryd.
Yn ddiweddar, mae cymunedau yn ardal Trefnant (23 eiddo gan gynnwys wyth busnes) ac yn ardal Llandegla (wyth eiddo gan gynnwys chwe busnes) wedi cyflwyno cais llwyddiannus i’r cynllun, a bydd y gwasanaeth ar gael yno cyn bo hir.