Sam Rowlands MS for North Wales is urging people to take part in a survey to help draw up a blueprint for the way the region is policed.
Mr Rowlands MS is calling on his constituents to have their say and help shape North Wales Police’s priorities.
He said:
I think it is a great idea to ask local people, who live and work in my Region, what they would like to see prioritised by the police.
I know that North Wales is one of the safest places to live, work and visit and the area’s Crime Commissioner Andy Dunbobbin and Chief Constable Carl Foulkes, want the public’s help to keep it that way.
The views will not only help create a new blueprint for the way North Wales is policed but will also help to decide where an extra 20 PCSO’s should work.
I welcome people being given the opportunity to have their say and urge everyone to take part in the survey.
The survey covers all aspects of policing, from tackling serious and organised crime and protecting children and young people from sexual exploitation and abuse, to dealing with social media trolling and responding to non-emergency calls.
Paper copies of the survey are available by contacting [email protected] or by calling 01492 805486.
The survey is now available at www.surveymonkey.co.uk/r/SMDKY8R for people to complete until Friday, 20th August. The aim is to publish the plan in September.
Sam Rowlands AS yn croesawu cynlluniau i gynnwys y cyhoedd wrth benderfynu sut i blismona Gogledd Cymru
Mae Sam Rowlands, AS ar gyfer Gogledd Cymru, yn annog pobl i gymryd rhan mewn arolwg i helpu i lunio glasbrint ar gyfer sut mae'r rhanbarth yn cael ei blismona.
Mae Mr Rowlands AS yn gofyn i’w etholwyr leisio eu barn a helpu i lunio blaenoriaethau Heddlu Gogledd Cymru.
Meddai:
Yn fy marn i, mae'n syniad da iawn gofyn i bobl leol, sy'n byw ac yn gweithio yn fy Rhanbarth, am eu syniadau ar gyfer blaenoriaethau'r heddlu.
Rwy'n gwybod bod Gogledd Cymru yn un o'r ardaloedd mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld â hi. Mae Comisiynydd Troseddu'r ardal, Andy Dunbobbin, a'r Prif Gwnstabl, Carl Foulkes, yn gofyn am gymorth y cyhoedd i sicrhau bod y sefyllfa hon yn parhau.
Bydd safbwyntiau'r cyhoedd yn helpu i greu glasbrint newydd ar gyfer plismona yng Ngogledd Cymru, ac yn helpu i benderfynu ble y dylai 20 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu ychwanegol weithio.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod pobl yn cael cyfle i leisio eu barn ac rwy'n annog pawb i gymryd rhan yn yr arolwg.
Mae'r arolwg yn ymdrin â phob agwedd ar blismona, gan gynnwys mynd i'r afael â throseddau difrifol a chyfundrefnol, amddiffyn plant a phobl ifanc rhag dioddef cam-fanteisio rhywiol a cham-drin rhywiol, ymdrin â throlio ar y cyfryngau cymdeithasol ac ymateb i alwadau nad ydyn nhw’n rhai brys.
Mae copi papur o'r arolwg ar gael drwy e-bostio [email protected] neu ffonio 01492 805486.
Mae'r arolwg ar gael i'w gwblhau gan bobl ifanc yn www.surveymonkey.co.uk/r/SMDKY8R tan ddydd Gwener, 20 Awst. Y nod yw cyhoeddi'r cynllun ym mis Medi.