Sam Rowlands MS for North Wales is backing exciting new plans to shape the future of pharmacy in Wales.
Mr Rowlands, Conservative member of the Welsh Parliament was speaking after attending a drop-in session at the Senedd in Cardiff to show support for the future role of pharmacy in Wales.
He said:
I was delighted to join fellow Members of the Senedd to discuss the exciting new plans for shaping the future of pharmacy and delivering a healthier Wales. It was also good to talk to pharmacists who work on the frontline dealing with the public every day.
Pharmacies are becoming increasingly important in our communities as they continue to help ease some of the pressure from our underfunded NHS.
It is vitally important they receive the support and recognition they deserve as going forward I believe they will play an even more important role in the future.
The RPS is the professional body for pharmacists in Wales and across Great Britain and are the only body that represents all sectors of pharmacy and promote and protect the health and well-being of the public through the professional leadership and development of the pharmacy profession.
Members were invited to attend the drop-in session to hear from RPS staff and frontline pharmacists about their vision for shaping the future of their role in Wales.
New plans to steer pharmacy towards its 2030 vision in Wales are being published which will focus on what can be achieved by the end of 2025 and will play an important role in shaping the future of pharmacy practice as outlined in the vision for Pharmacy: Delivering a Healthier Wales.
The RPS have been proud to continue to manage this important ambition for Wales, working on behalf of the Welsh Pharmaceutical Committee and with colleagues from all over Wales. The new goals will be ambitious, patient focused and will harness the contribution of the entire pharmacy team in all care settings.
Sam Rowlands AS yn helpu i hyrwyddo’r gwaith o lywio dyfodol fferylliaeth yng Nghymru
Mae Sam Rowlands, yr AS dros Ogledd Cymru, yn cefnogi cynlluniau newydd cyffrous i lywio dyfodol fferylliaeth yng Nghymru.
Roedd Mr Rowlands, aelod Ceidwadol o’r Senedd, yn siarad ar ôl mynychu sesiwn galw heibio yn y Senedd yng Nghaerdydd i ddangos cefnogaeth i rôl fferylliaeth yng Nghymru yn y dyfodol.
Meddai:
Roeddwn i’n falch iawn o ymuno ag Aelodau o’r Senedd i drafod y cynlluniau newydd cyffrous ar gyfer llywio dyfodol fferylliaeth a sicrhau Cymru iachach. Roedd hi’n braf iawn siarad gyda fferyllwyr sy’n gweithio ar y rheng flaen yn delio â’r cyhoedd bob dydd.
Mae fferyllfeydd yn bwysicach nag erioed yn ein cymunedau wrth iddyn nhw barhau i helpu i ysgafnhau rhywfaint o’r pwysau ar y GIG sydd heb gyllid digonol.
Mae’n hollbwysig eu bod yn derbyn y gefnogaeth a’r gydnabyddiaeth haeddiannol oherwydd bydd ganddyn nhw rôl bwysicach nag erioed wrth symud ymlaen i’r dyfodol.
Yr RPS yw’r corff proffesiynol ar gyfer fferyllwyr yng Nghymru a Phrydain a dyma’r unig gorff sy’n cynrychioli holl sectorau fferylliaeth ac sy’n hyrwyddo a diogelu iechyd a lles y cyhoedd drwy arweinyddiaeth broffesiynol a datblygiad y proffesiwn fferylliaeth.
Gwahoddwyd aelodau i fynychu sesiwn galw heibio i glywed gan staff RPS a fferyllwyr rheng flaen am eu gweledigaeth i lywio dyfodol eu rôl yng Nghymru.
Mae cynlluniau newydd i lywio fferylliaeth tuag at ei gweledigaeth ar gyfer 2030 yn cael eu cyhoeddi a byddant yn canolbwyntio ar yr hyn y gellir ei gyflawni erbyn diwedd 2025 ac yn chwarae rôl bwysig wrth lywio ymarfer fferylliaeth yn y dyfodol fel yr amlinellir yn y weledigaeth Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach
Mae’r RPS wedi bod yn falch o barhau i reoli’r uchelgais bwysig hon i Gymru, gan weithio ar ran Pwyllgor Fferyllol Cymru a gyda chydweithwyr o bob rhan o Gymru. Bydd y nodau newydd yn uchelgeisiol, yn canolbwyntio ar y claf ac yn harneisio cyfraniad y tîm fferylliaeth cyfan ym mhob lleoliad gofal.