Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, says issues in the Welsh NHS are still escalating despite repeated Labour promises.
Mr Rowlands, Shadow Health Minister, was speaking in the Senedd, following a statement by the Cabinet Secretary for Health and Social Care: NHS Wales organisations—Escalation update.
Mr Rowlands said:
You've made clear today in your statement, and we've heard it on the floor here before, that the day-to-day responsibility for healthcare delivery is not your responsibility, which I would accept at an operational level. But when we're faced with such a consistent period of time of people on waiting lists and suffering, I would argue that it's no longer an operational responsibility, but is now a strategic and policy responsibility which firmly sits with you and with the Welsh Government.
I think is important when we're looking at de-escalation that we should be looking for support for those solutions for change from any quarter we can get it from, whether it's cross-border, cross-sector, or wherever it may be.
I'd be interested to hear from you, Cabinet Secretary, how those discussions are going with colleagues at a UK level, working across border and across sectors, to deliver solutions to change so that these health boards can move out of this escalated position sooner rather than later.
I agree with you in your summary towards the end, Cabinet Secretary, where you talked about the seriousness and significance of decisions being made. In the lead-up to the last Senedd elections, a previous Health Minister felt comfortable to move Betsi Cadwaladr University Health Board out of special measures before plunging them back in so soon after those elections, I would be keen to hear from you a commitment that you will not be taking this approach yourself, because the appearance of escalation and de-escalation being played around with for political expediency is something that I know damages confidence in this place and damages confidence in the Welsh Government. The lives and health of people across Wales are far too serious for those party political games to be played.
The Cabinet Minister, Jeremy Miles said there was a public framework for oversight and escalation, which was most recently published in January of this year and sets out very clearly the process by which the Welsh Government maintains oversight of NHS bodies.
Mr Rowlands added:
As the issues in the Welsh NHS accumulate, people across Wales aren’t seeing the improvements we would expect after repeated Labour promises.
Both Powys and Swansea Bay health boards have been escalated again, with Betsi Cadwaladr remaining in special measures. There has been next to no progress. In fact, the situation is getting worse.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at broblemau gyda'r GIG yng Nghymru yn parhau i waethygu
Dywed Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, fod problemau yn GIG Cymru yn dal i waethygu er gwaethaf addewidion ailadroddus Llafur.
Roedd Mr Rowlands, Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid, yn siarad yn y Senedd, yn dilyn datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Sefydliadau GIG Cymru—Diweddariad Uwchgyfeirio.
Meddai Mr Rowlands:
Rydych chi wedi egluro heddiw yn eich datganiad—ac rydyn ni wedi'i glywed ar y llawr yma o'r blaen—nad eich cyfrifoldeb chi yw'r cyfrifoldeb o ddydd i ddydd am ddarparu gofal iechyd, y byddwn yn ei dderbyn ar lefel weithredol, ond pan fyddwn ni'n wynebu cyfnod mor gyson o amser y mae pobl ar restrau aros ac yn dioddef ar y rhestrau aros hynny, byddwn i'n dadlau nad yw'n gyfrifoldeb gweithredol mwyach, ond mae bellach yn gyfrifoldeb strategol a pholisi, sydd, i mi, yn eistedd yn gadarn gyda chi a gyda Llywodraeth Cymru.”
Fel y trydydd maes rwy'n credu sy'n bwysig wrth edrych ar ddad-uwchgyfeirio. Byddwn yn dadlau hefyd y dylem fod yn chwilio am gefnogaeth i'r atebion hynny ar gyfer newid o unrhyw gyfeiriad, boed yn drawsffiniol, boed yn draws-sector—ble bynnag y bo.
Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed gennych, Ysgrifennydd Cabinet, sut mae'r trafodaethau hynny'n mynd gyda chydweithwyr ar lefel y DU, gan weithio ar draws ffiniau ac ar draws sectorau, i ddarparu atebion i newid fel y gall y byrddau iechyd hyn symud allan o'r sefyllfa uwchgyfeirio hon yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach.
“Rwy'n cytuno â chi yn eich crynodeb tuag at y diwedd, Ysgrifennydd Cabinet, lle buoch yn siarad am ddifrifoldeb ac arwyddocâd penderfyniadau sy'n cael eu gwneud. Rydym yn gwybod, yn y cyfnod cyn etholiadau diwethaf y Senedd, fod Gweinidog iechyd blaenorol yn teimlo'n gyfforddus i symud bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig cyn eu rhoi yn ôl yn fuan ar ôl yr etholiadau hynny. Felly, byddwn yn awyddus i glywed gennych chi heddiw ymrwymiad na fyddwch chi'n cymryd y dull hwn eich hun, oherwydd mae creu argraff o chwarae o gwmpas ag uwchgyfeirio a dad-uwchgyfeirio er hwylustod gwleidyddol yn rhywbeth rwy'n gwybod ei fod yn niweidio hyder yn y lle hwn ac yn niweidio hyder yn Llywodraeth Cymru. Mae bywydau ac iechyd pobl ledled Cymru yn llawer rhy ddifrifol i'r gemau gwleidyddol hynny gael eu chwarae.”
Dywedodd Gweinidog y Cabinet, Jeremy Miles fod fframwaith cyhoeddus ar gyfer goruchwylio ac uwchgyfeirio, a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar ym mis Ionawr eleni ac sy'n nodi'n glir iawn sut mae Llywodraeth Cymru yn goruchwylio cyrff y GIG.
Ychwanegodd Mr Rowlands:
Wrth i'r problemau yn GIG Cymru gronni, nid yw pobl ledled Cymru yn gweld y gwelliannau y byddem yn eu disgwyl ar ôl addewidion ailadroddus Llafur.
Mae byrddau iechyd Powys a Bae Abertawe wedi cael eu huwchgyfeirio eto, gyda Betsi Cadwaladr yn parhau dan fesurau arbennig. Dydyn ni heb weld fawr ddim cynnydd. A dweud y gwir, mae'r sefyllfa'n gwaethygu.