Sam Rowlands MS for North Wales has praised a council for exceeding its renewable energy target.
Mr Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales said:
It is great to see the tremendous efforts which are being made by Denbighshire County Council to make more use of renewable energy. I particularly welcome the visits to schools to explain more about carbon reduction measures to pupils. This is an excellent way of getting the message across.
These days more than ever as the cost of living continues to rise we are all extremely conscious of saving money and it is vitally important we find alternative ways to source our energy.
Denbighshire County Council has managed to exceed their renewable energy target by increasing use across council owned and occupied buildings and I congratulate everyone involved in achieving this.
At the start of April 2017 the council had 147.8kWp of installed renewable energy. As of April 2022 the council property section has increased the installed capacity of renewable energy to 539.62kWp, more than tripling the installed capacity.
Steve Gadd, Head of Finance and Property Services, said:
We are pleased to have delivered successful projects such as Ysgol Dinas Bran where on site carbon emissions have been reduced by over 30% by installing solar PV, modifying heating controls and LED lighting.
The Council has also started installing air source heatpumps and battery storage to further reduce electricity demand and carbon emissions. This is on top of other work that is reducing consumption through the installation of LED lighting, loft and wall insulation, improved draught proofing and modification of heating systems to further reduce carbon dioxide emissions.
The Council’s energy team has also been running lessons in schools educating the pupils about the carbon reduction measures that have been installed in their school and also advising how they can reduce their own energy use and emissions at home.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at lwyddiant Cyngor Sir Ddinbych wrth ddefnyddio ynni o ffynonellau adnewyddadwy
Mae Sam Rowlands AS Gogledd Cymru wedi canmol cyngor am ragori ar ei darged ynni adnewyddadwy.
Dywedodd Mr Rowlands, Aelod o'r Senedd dros Ogledd Cymru:
Mae'n wych gweld yr ymdrechion aruthrol sy'n cael eu gwneud gan Gyngor Sir Ddinbych i wneud mwy o ddefnydd o ynni adnewyddadwy. Rydw i'n croesawu'n arbennig yr ymweliadau ag ysgolion i egluro mwy am fesurau lleihau carbon i ddisgyblion. Dyma ffordd wych o gyfleu'r neges.
Y dyddiau hyn yn fwy nag erioed wrth i gostau byw barhau i gynyddu, rydyn ni oll yn ymwybodol iawn o arbed arian ac mae'n hanfodol bwysig ein bod yn dod o hyd i ffyrdd eraill o gael gafael ar ynni.
Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi llwyddo i ragori ar ei darged ynni adnewyddadwy drwy gynyddu'r defnydd mewn adeiladau sy'n eiddo i'r cyngor a rhai a ddefnyddir ganddo ac rydw i'n llongyfarch pawb sy'n rhan o'r gwaith o gyflawni hyn.
Ar ddechrau mis Ebrill 2017, roedd gan y cyngor 147.8kWp o ynni adnewyddadwy wedi'i osod. Erbyn mis Ebrill 2022, mae adran eiddo'r cyngor wedi cynyddu capasiti’r ynni adnewyddadwy sydd wedi'i osod i 539.62kWp, gan fwy na threblu'r capasiti sydd wedi'i osod.
Dywedodd Steve Gadd, Pennaeth Cyllid a Gwasanaethau Eiddo:
Rydyn ni'n falch o fod wedi cyflawni prosiectau llwyddiannus fel Ysgol Dinas Brân lle mae allyriadau carbon ar y safle wedi gostwng 30% a mwy drwy osod paneli solar ffotofoltäig, addasu dulliau rheoli gwresogi a goleuadau LED.
Mae'r Cyngor wedi dechrau gosod pympiau gwres ffynhonnell aer a storfeydd batris hefyd er mwyn lleihau’r galw am drydan ac allyriadau carbon ymhellach. Mae hyn yn ychwanegol at y gwaith arall sy'n lleihau defnydd drwy osod goleuadau LED, inswleiddio atigau a waliau, gwella dulliau atal drafftiau ac addasu systemau gwresogi i leihau allyriadau carbon deuocsid ymhellach.
Mae tîm ynni'r Cyngor wedi bod yn cynnal gwersi mewn ysgolion hefyd, sy'n addysgu'r disgyblion am y mesurau lleihau carbon sydd wedi'u gosod yn eu hysgol ac yn cynghori sut gallan nhw leihau eu defnydd eu hunain o ynni ac allyriadau gartref.