Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is encouraging the public to find out more about local health services in Holyhead.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Health is urging constituents to call in at a special drop-in session in the town this Friday, May 3.
Mr Rowlands said:
I welcome these drop-in sessions which give local people the opportunity to find out more about their local health services.
Events have already been held in Wrexham and Denbigh and it is great to see that residents of Holyhead will now have the chance to see what services are available.
I am pleased that the Local Health Board is taking the time to hold these conversations and listen to the public’s views and concerns.
The latest Local Health Conversation event is being held at Anglesey Weightlifting and Fitness Centre this Friday, May 3, from 11am – 1pm.
During the session members of the public are invited to drop in to find out more about their local health services, speak to the West Integrated Health Community Management Team, and take part in an optional taster session with the Holyhead Nifty 60s exercise group!
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at y digwyddiad galw heibio a drefnir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog y cyhoedd i ddarganfod mwy am wasanaethau iechyd lleol yng Nghaergybi.
Mae Mr Rowlands, Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid yn annog etholwyr i alw heibio sesiwn arbennig yn y dref ddydd Gwener yma, 3 Mai.
Meddai Mr Rowlands:
Rwy'n croesawu'r sesiynau galw heibio hyn sy'n rhoi cyfle i bobl leol ddarganfod mwy am eu gwasanaethau iechyd lleol.
Mae digwyddiadau eisoes wedi’u cynnal yn Wrecsam a Dinbych ac mae'n wych gweld y bydd trigolion Caergybi nawr yn cael cyfle i weld pa wasanaethau sydd ar gael.
Rwy'n falch bod y Bwrdd Iechyd Lleol yn cymryd yr amser i gynnal y sgyrsiau hyn a gwrando ar farn a phryderon y cyhoedd.
Cynhelir y digwyddiad Sgwrs Iechyd Lleol diweddaraf yng Nghanolfan Codi Pwysau a Ffitrwydd Ynys Môn ddydd Gwener 3 Mai, rhwng 11am ac 1pm.
Yn ystod y sesiwn, gwahoddir aelodau'r cyhoedd i alw heibio i ddarganfod mwy am eu gwasanaethau iechyd lleol, siarad â Thîm Rheoli Cymunedol Iechyd Integredig y Gorllewin, a chymryd rhan mewn sesiwn flasu ddewisol gyda grŵp ymarfer ‘Nifty 60s’ Caergybi!