Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is encouraging the public to find out more about local health services in Mold.
Mr Rowlands, Shadow Health Minister is urging constituents to call in at a special drop-in session being held in the town next month.
Mr Rowlands said:
I welcome these drop-in sessions which give local people the opportunity to find out more about their local health services and to have their say on how things can be improved.
Events have already been held in many other places around North Wales and it is great to see that residents of Mold will now have the chance to see what services are available.
I am also pleased that the Local Health Board is taking the time to hold these conversations and listen to the public’s views and concerns.
The latest Local Health Conversation event is being held at the Daniel Owen Community Centre, Daniel Owen Precinct on Tuesday September 10 from 5.30pm-7.30pm.
During the session members of the public are invited to drop in to find out more about their local health services, what works well, what could be better and what should the priorities be for BCUHB.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at y digwyddiad galw heibio a drefnir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn annog y cyhoedd i ddarganfod mwy am wasanaethau iechyd lleol yn yr Wyddgrug.
Mae Mr Rowlands, Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid yn annog etholwyr i alw heibio sesiwn arbennig sy'n cael ei chynnal yn y dref fis nesaf.
Meddai Mr Rowlands:
Rwy'n croesawu'r sesiynau galw heibio hyn sy'n rhoi cyfle i bobl leol ddarganfod mwy am eu gwasanaethau iechyd lleol a dweud eu dweud ar sut y gellir gwella pethau.
Mae digwyddiadau eisoes wedi'u cynnal mewn sawl man arall yn y Gogledd ac mae'n wych gweld y bydd trigolion yr Wyddgrug nawr yn cael cyfle i weld pa wasanaethau sydd ar gael.
Rydw i hefyd yn falch fod y Bwrdd Iechyd Lleol yn cymryd yr amser i gynnal y sgyrsiau hyn a gwrando ar farn a phryderon y cyhoedd.
Cynhelir y digwyddiad Sgwrs Iechyd Lleol diweddaraf yng Nghanolfan Gymunedol Daniel Owen, Canolfan Daniel Owen ddydd Mawrth 10 Medi rhwng 5.30pm a 7.30pm.
Yn ystod y sesiwn gwahoddir aelodau'r cyhoedd i alw heibio i ddysgu mwy am eu gwasanaethau iechyd lleol, beth sy'n gweithio'n dda, beth allai weithio’n well a beth ddylai'r blaenoriaethau fod ar gyfer BIPBC.