Sam Rowlands MS for North Wales is warning constituents to beware of scam emails offering them refunds from British Gas.
Mr Rowlands, Welsh Conservative and a member of the Welsh Parliament, was commenting after Flintshire County Council Trading Standards shared their concern with residents.
He said:
It is a real shame that there are unscrupulous people out there attempting to scam the public by pretending to be British Gas, especially at this difficult time.
I would urge all my constituents to be aware of these fake emails from scammers and cybercriminals.
The latest scam offers a non-existent refund of £315 by asking you to click on a link which then takes you to a website which is not the genuine one for British Gas.
Please don’t be caught out and always check if something is genuine.
Flintshire County Council Trading Standards says scammers are impersonating British Gas with fake emails tempting recipients to click a link to get a fake energy refund.
They are warning residents not to click on the link as it will lead to a malicious website which is designed to steal your financial and/or personal information.
If you think that an email you received from British Gas could be genuine, you should contact British Gas using their official contact number from their website to verify the authenticity of the email.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at sgam ynni
Mae Sam Rowlands, AS dros Ogledd Cymru, yn rhybuddio etholwyr i fod yn wyliadwrus o negeseuon e-bost twyllodrus yn cynnig ad-daliadau iddyn nhw gan Nwy Prydain.
Roedd Mr Rowlands o’r Ceidwadwr Cymreig ac Aelod o’r Senedd, yn gwneud y sylw ar ôl i Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint rannu eu pryderon â thrigolion.
Dywedodd:
Mae'n drueni mawr fod yna bobl ddiegwyddor allan yna yn ceisio twyllo'r cyhoedd drwy ddweud eu bod yn gweithio i Nwy Prydain, yn enwedig yn y cyfnod anodd hwn.
Byddwn yn annog fy holl etholwyr i fod yn ymwybodol o'r e-byst ffug hyn gan sgamwyr a seiberdroseddwyr.
Mae'r sgam diweddaraf yn cynnig ad-daliad nad yw'n bodoli o £315 drwy ofyn i chi glicio ar ddolen sydd wedyn yn mynd â chi i wefan ond nid dyma'r wefan ddilys ar gyfer Nwy Prydain.
Peidiwch â chael eich dal allan a chofiwch wirio bob amser a yw rhywbeth yn ddilys.
Dywed Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint fod sgamwyr yn dynwared Nwy Prydain gydag e-byst ffug gan demtio derbynwyr i glicio ar ddolen i gael ad-daliad ynni ffug.
Maen nhw'n rhybuddio trigolion i beidio â chlicio ar y ddolen oherwydd bydd yn mynd â chi i wefan faleisus sydd wedi'i chynllunio i ddwyn eich gwybodaeth ariannol a/neu bersonol.
Os ydych yn credu y gallai e-bost a gawsoch chi gan Nwy Prydain fod yn ddilys, dylech gysylltu â Nwy Prydain gan ddefnyddio eu rhif cyswllt swyddogol o'u gwefan i wirio dilysrwydd yr e-bost.