Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is encouraging people to attend events at Tŷ Pawb this half term.
Mr Rowland, Shadow Minister for Local Government and a frequent visitor to the centre when in Wrexham said:
It is always very difficult to find things to keep your children occupied during school holidays and it is good to see Tŷ Pawb offering events for all the family.
There certainly seems to be something for everyone with a variety of sessions including things like a multilingual family art club and badge making with breakfast for the children included.
I would urge anyone interested in attending any of the events in Tŷ Pawb not to miss out on the opportunity and to make sure they book their place.
Family events start on Saturday February 10 from 10am- 2pm, in the Useful Art Space, with a Multilingual Family Art Club which is an artist-led session for the whole family to get involved in creative making. You can take part in English, Telugu or Tamil. It is suitable for all ages, offered on a ‘pay what you can’ basis, includes breakfast cereal for kids. Booking advised.
There is also a Best Mates Bracelet and Key Ring Making free drop-in on Tuesday February 13 from 2- 4pm and Brilliant Badge Making free drop-in on Thursday February 15 from 2-4pm for over four year olds.
For more information about these and other events planned contact 01978 292144 [email protected] or go to www.typawb.wales.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at ddigwyddiadau yng nghanolfan adnoddau cymunedol diwylliannol Wrecsam
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog pobl i fynychu digwyddiadau yn Tŷ Pawb yr hanner tymor hwn.
Meddai Mr Rowland, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid ac ymwelydd cyson â'r ganolfan yn Wrecsam:
Mae wastad yn anodd iawn dod o hyd i bethau i gadw'ch plant yn ddiddig yn ystod gwyliau'r ysgol ac mae'n dda gweld Tŷ Pawb yn cynnig digwyddiadau i'r teulu cyfan.
Yn sicr mae yna rywbeth i bawb yno, gydag amrywiaeth o sesiynau gan gynnwys pethau fel clwb celf amlieithog i’r teulu cyfan a gwneud bathodynnau dros frecwast i'r plant.
Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn mynychu unrhyw un o'r digwyddiadau yno i fachu ar y cyfle a chadw eu lle.
Bydd y digwyddiadau i'r teulu yn dechrau ddydd Sadwrn 10 Chwefror rhwng 10am a 2pm, yn y Lle Celf Defnyddiol, gyda Chlwb Celf Amlieithog i Deuluoedd, sef sesiwn creu creadigol dan arweiniad artistiaid i'r teulu cyfan. Gallwch gymryd rhan yn Saesneg, Telugu neu Tamil. Mae'n addas ar gyfer pob oedran, a byddwch 'talu'r hyn y gallwch ei dalu', a bydd yn cynnwys brecwast i’r plant. Fe’ch cynghorir i gadw’ch lle.
Mae yna hefyd sesiynau galw heibio am ddim i greu Breichledau Cyfeillgarwch a Modrwyau Allweddi ddydd Mawrth 13 Chwefror rhwng 2-4pm, a sesiwn galw heibio am ddim i wneud bathodynnau ddydd Iau 15 Chwefror rhwng 2-4pm ar gyfer 4+ oed.
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau hyn a digwyddiadau eraill sydd ar y gweill cysylltwch â 01978 292144 [email protected] neu ewch i www.typawb.cymru.